
Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan wrth i Gymru geisio adeiladu ar y dechreuad cadarnhaol i’w hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 gyda dwy gêm yn erbyn Albania.
Mae pedwar chwaraewr heb gap wedi’i ei enwi yn y garfan, gan gynnwys galwad i fyny cyntaf i’r golwraig Lucy Farrell-Shrouder. Mae’r amddiffynnwr Mayzee Davies yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf ers dioddef anaf ACL yn erbyn Denmarc ym mis Mai 2025. Mae Olivia Clark yn colli allan oherwydd anaf.
Ar ôl dechreuad cryf i’r ymgyrch gyda gêm gyfartal 2-2 oddi cartref yn erbyn Czechia a buddugoliaeth o 6-1 yn Llanelli yn erbyn Montenegro, bydd Wilkinson yn gobeithio adeiladu ar y canlyniadau hynny pan fyddant yn wynebu Albania yn y STōK Cae Ras ar ddydd Mawrth 14 Ebrill (K0 7:15pm) ac eto ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill yn Arena Elbasan, Elbasan (KO 6:00pm CEST).
Bydd y gêm ar dir cartref yn nodi’r tro cyntaf erioed i’r timau hyn wynebu ei gilydd. Mae Cymru’n dychwelyd i’r STōK Cae Ras ar ôl chwarae yno ym mis Chwefror blwyddyn ddiwethaf mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden o flaen flaen torf record ar gyfer gêm gartref y tu allan i Gaerdydd, gyda mwy na 6,000 yn bresennol.
Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, gyda phrisiau’n £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.
Cymru: Lucy FARRELL-SHROUDER (Stoke City – On loan from Burnley), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Poppy SOPER (Rugby Borough), Hannah CAIN (Leicester City), Mayzee DAVIES (Manchester City), Charlie ESTCOURT (Portsmouth), Gemma EVANS (Liverpool), Mared GRIFFITHS (Sunderland – On loan from Manchester United), Ceri HOLLAND (Liverpool), Elise HUGHES (Crystal PALACE), Sophie INGLE (Bristol City), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Hayley LADD (Crystal Palace), Esther MORGAN (Bristol City), Ffion MORGAN (West Ham United), Phoebie POOLE (Plymouth Argyle), Ella POWELL (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Sunderland), Mia ROSS (Charlton Athletic), Rachel ROWE (Nottingham Forest), Tianna TEISAR (Plymouth Argyle – On loan from Bristol City), Annie WILDING (Portsmouth), Lily WOODHAM (Liverpool).