Live reporting: Cymru v Kazakhstan

Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer gemau agoriadiol rownd ragbrofol Cwpan y Byd

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr ar gyfer dechrau’r ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026, lle bydd Cymru yn wynebu Kazakhstan yn Stadiwm Dinas Caerdydd (nos Sadwrn 22 Mawrth) a Gogledd Macedonia yn Skopje (nos Fawrth 25 Mawrth).

Mae’r chwaraewr canol cae Kai Andrews yn derbyn ei alwad gyntaf i’r tîm, ac mae Tom Lawrence yn rhan o garfan Craig Bellamy am y tro gyntaf. Ni fydd Aaron Ramsey ar gael oherwydd anaf.

Bydd Ollie Cooper hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu allan ym mis Tachwedd oherwydd anaf, ond ni fydd Harry Wilson, Ethan Ampadu, Wes Burns a Rhys Norrington-Davies ar gael oherwydd anafiadau.

Ar ôl ymgyrch lwyddiannus yn Uwch Gynghrair y Cenhedloedd UEFA, lle sicrhawyd dyrchafiad i Gynghrair A, bydd tîm Bellamy yn dechrau’r rhagbrofion Cwpan y Byd o flaen y Wal Goch ar nos Sadwrn yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r stadiwm dan ei sang.

Ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol, bydd Cymru yn cystadlu yng Nghrŵp J yn erbyn Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakhstan a Liechtenstein. Bydd enillydd y grŵp yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Bydd y pedwar lle sydd ar ôl yn y gystadleuaeth yn cael eu penderfynu trwy gemau ail-gyfle sy’n cynnwys yr 12 tîm a orffennodd yn ail yn eu grwpiau a phedwar tîm o’r pencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd llynedd.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Kazakhstan (KO 7:45pm) ar gael i’w prynu ar wefan docynnau FAW.

Cymru: Danny WARD (Leicester City), Karl DARLOW (Leeds United), Adam DAVIES (Sheffield United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Joe RODON (Leeds United), Chris MEPHAM (Sunderland- on loan from Bournemouth), Ben CABANGO (Swansea City), Connor ROBERTS (Burnley), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Jay DASILVA (Coventry City), Tom LAWRENCE (Rangers), Joe ALLEN (Swansea City), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Stade Rennais), Ollie COOPER (Swansea City), Kai ANDREWS (Motherwell- on loan from Coventry City), Sorba THOMAS (Nantes- on loan from Huddersfield Town), David BROOKS (Bournemouth), Kieffer MOORE (Sheffield United), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Daniel JAMES (Leeds United), Liam CULLEN (Swansea City), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Mark HARRIS (Oxford United), Lewis KOUMAS (Stoke City- on loan from Liverpool), Rabbi MATONDO (Hannover 96- on loan from Rangers). 

Prynhwch eich tocyn

Cymru v Kazakhstan

7:45pm Dydd Sadwrn 22 Mawrth
Stadiwm Dinas Caerdydd

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.