Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer gemau agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd

Mae Craig Bellamy wedi enwi carfan o 28 o chwaraewyr wrth i ymgyrch Cymru yn bencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ddechrau yn erbyn rhai o oreuon Ewrop yng Nghynghrair A.

Mae Cymru yn croesawu’n ôl nifer o chwaraewyr nad oedd ar gael ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Ghana a Rwmania ym mis Mehefin, gan gynnwys Harry Wilson a Jordan James. Mae Cian Ashford hefyd yn derbyn ei alwad gyntaf i’r tîm hŷn.

Bydd carfan Bellamy yn dechrau eu hymgyrch gyda dwy gêm oddi cartref yn erbyn Portiwgal yn Lisbon (dydd Iau 24 Medi) a Denmarc yn Copenhagen (dydd Sul 27 Medi). Bydd Cymru’n dychwelyd adref ar gyfer dwy gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd; yn erbyn Norwy (dydd Iau 1 Hydref) a Denmarc (dydd Sul 4 Hydref).

Y tro diwethaf wnaeth Gymru wynebu Portiwgal oedd yn rownd gynderfynol pencampwriaeth UEFA EURO 2016, pan sgoriodd Cristiano Ronaldo i helpu sicrhau buddugoliaeth 2-0 ar eu ffordd i ennill y bencampwriaeth. Y tro diwethaf wnaeth Gymru wynebu Norwy oedd mewn buddugoliaeth 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mewn beth oedd gêm olaf Gary Speed fel Prif Hyfforddwr ei wlad. Roedd Portiwgal a Norwy yn rhan o bencampwriaeth Gwpan y Byd FIFA eleni.

Roedd Denmarc yn wrthwynebwyr mwy diweddar, gyda Chymru yn eu hwynebu ddwywaith yn ystod ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2018 ac yn rownd 16 olaf pencampwriaeth UEFA EURO 2020.

Fel tîm yng Nghynghrair A, bydd gorffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp yn sicrhau lle i Gymru yn y rownd wyth olaf a fydd yn cael ei chynnal ym mis Mawrth 2027. Bydd pedwar enillydd y rownd hynny wedyn yn symud ymlaen i Rownd Derfynol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ym mis Mehefin 2027, a fydd yn cael eu cynnal gan un o’r gwledydd sydd yn cystadlu.

Bydd gorffen yn drydydd yn golygu gemau ail gyfle i osgoi disgyn lawr i Gynghrair B, hefyd ym mis Mawrth, tra bydd gorffen ar waelod y grŵp yn arwain at ddisgyniad awtomatig lawr i Gynghrair B cyn y rhifyn nesaf o’r gystadleuaeth.

Mae tocynnau ar gyfer y gemau cartref yn erbyn Norwy a Denmarc ar werth ar wefan docynnau CBDC.

Cymru: Karl DARLOW (Manchester United), Danny WARD (Wrexham), Tom KING (Everton), Jay DASILVA (Coventry City), Jayden LIENOU (Leeds United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Rhys NORRINGTON-DAVIES (Sheffield United), Chris MEPHAM (West Bromwich Albion), Ben CABANGO (Swansea City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Connor ROBERTS (Burnley), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Wolverhampton Wanderers- On loan from Stade Rennais), Liam CULLEN (Leicester City), Joel COLWILL (Cardiff City), Harry WILSON (Leeds United), Nathan BROADHEAD (Wrexham), Cian ASHFORD (Cardiff City), Brennan JOHNSON (Everton), Sorba THOMAS (Hull City), Cameron CONGREVE (KVC Westerlo), Lewis KOUMAS (Liverpool), Kieffer MOORE (Wrexham), Mark HARRIS (Oxford United), Dan JAMES (Leeds United), David BROOKS (Bournemouth), Wes BURNS (Leicester City).

Archebwch eich tocynnau

Tocynnau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Norway – 1/10
Denmarc 4/10

Edrychwch ar y rhestr

Rhestr Capiau Dynion Cymru

Rhestr yn gywir ar 14 Medi 2026