Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer gemau agoriadol rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer gemau agoriadol rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 oddi cartref yn erbyn Czechia a gartref yn erbyn Montenegro ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Gêm gyfeillgar ryngwladol yn Rodney Parade yn 2019 oedd y tro diwethaf i Gymru wynebu Czechia. Y tro diwethaf i Gymru chwarae Montenegro oedd yn 2014 yn ystod ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Menywod 2015.

Mae Wilkinson wedi enwi tri chwaraewr ddi-gap yn y garfan, gan gynnwys Olivia Francis a Phoebie Poole o Plymouth Argyle. Mae Lois Joel a Poppy Soper yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn anafiadau. Mae Laura Hughes, a enillodd ei chap cyntaf i Gymru yn erbyn y Swistir ym mis Rhagfyr, yn colli allan oherwydd anaf.

Bydd yr ymgyrch ragbrofol yn dechrau yn Stadiwm y Ddinas yn Uherské Hradiště yn erbyn Czechia ar ddydd Mawrth 3 Mawrth (KO 5:30pm GMT), cyn y gêm yn erbyn Montenegro yn Llanelli ar ddydd Sadwrn 7 Mawrth (KO 4:30pm GMT).

Mae tîm Wilkinson yn dychwelyd i Lanelli wedi iddynt chwarae yno ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2024, gan guro Kosovo 2-0 mewn gêm ragbrofol UEFA EWRO Menywod 2025, pan dorrodd Jess Fishlock record sgorio goliau Cymru o flaen mwy na 4,000 o gefnogwyr.

Mae tocynnau ar gael o hyd i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, gyda phrisiau’n £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Cymru: Olivia CLARK (Leicester City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Poppy SOPER (Rugby Borough), Hannah CAIN (Leicester City), Charlie ESTCOURT (Portsmouth), Gemma EVANS (Liverpool), Olivia FRANCIS (Plymouth Argyle), Mared GRIFFITHS (Sunderland – On loan from Manchester United), Ceri HOLLAND (Liverpool), Elise HUGHES (Crystal PALACE), Sophie INGLE (Bristol City), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Hayley LADD (Crystal Palace), Esther MORGAN (Bristol City), Ffion MORGAN (West Ham United), Mary MCATEER (Charlton Athletic), Phoebie POOLE (Plymouth Argyle), Ella POWELL (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Sunderland), Mia ROSS (Charlton Athletic), Rachel ROWE (Nottingham Forest), Tianna TEISAR (Plymouth Argyle – On loan from Bristol City), Lily WOODHAM (Liverpool), Gwen ZIMMERMAN (Eclipse Select).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.