
Mae Matty Jones wedi enwi carfan o 23 o chwaraewyr Cymru ar gyfer gemau olaf ymgyrch ragbrofol UEFA EURO Dan 21 2027 yn erbyn Gwlad Belg ac Awstria.
Mae’r garfan yn cynnwys cymysgedd o brofiad, gyda Charlie Crew, Kai Andrews a Ronan Kpakio eisoes wedi cynrychioli’r tîm cenedlaethol, tra bod pedwar chwaraewr (Charlie Stevens, Logan Stretch, Ollie Bostock a Robert Tankiewicz) wedi bod yn rhan o bencampwriaeth UEFA EURO D19 dros yr haf yng ngogledd Cymru.
Bydd rhai o brif aelodau’r garfan D21, gan gynnwys Alex Williams, Archie Harris a Joel Cotterill, yn cynrychioli’r grŵp am y tro olaf, tra bod Noah Anyadike a Reece Munro ymhlith y rhai sydd wedi derbyn ei galwad gyntaf i’r garfan.
Bydd Cymru yn teithio i Westerlo i wynebu Gwlad Belg ar nos Fawrth 29 Medi (KO 7.00pm BST) cyn croesawu Awstria i’r Ofal yng Nghaernarfon wythnos yn ddiweddarach ar nos Fawrth 6 Hydref (KO 5.30pm). Bydd y ddwy gêm yn cael eu dangos yn fyw ar Sgorio.
Y gêm yn erbyn Awstria bydd y tro cyntaf i dîm Cymru D21 chwarae yng Nghaernarfon, a chyfle i ddangos trawsnewidiad Yr Ofal yn dilyn buddsoddiad o fwy na £1 miliwn fel rhan o bencampwriaeth UEFA EURO D19 dros yr haf yng ngogledd Cymru.
Roedd y gwaith ailddatblygu yn cynnwys cae chwarae newydd, ynghyd ag adnewyddu’r cyfleusterau ystafelloedd newid. Fe wnaeth y stadiwm cynnal tair gêm yn ystod y pencampwriaeth, gan croesawi Croatia, Serbia a’r Eidal i Gaernarfon.
Mae tocynnau ar gyfer y gemau yn erbyn Awstria ar werth ar wefan docynnau CBDC.
Cymru U21s: Joe DUNCAN (Southend- On loan from Bristol City), Logan STRETCH (Buxton- On loan from Sheffield Wednesday), Luke ARMSTRONG (Raith Rovers- On loan from Cardiff City), Alex WILLIAMS (Hibernian- On loan from West Bromwich Albion), Archie HARRIS (Wigan Athletic), Calum AGUIS (Crewe Alexandra), Charlie CREW (Walsall- On loan from Leeds United), Charlie STEVENS (Bournemouth), Dakarai MAFICO (Cardiff City), Dan COX (Southend United), Ed JAMES (Exeter City), Gabriele BIANCHERI (Wacker Innsbruck), George NEVETT (Tranmere Rovers- On loan from Peterborough United), Joel COTTERILL (St Johnstone), Jonathan BLAND (Barnsley), Kai ANDREWS (Oxford United- On loan from Coventry City), Leon SCARLETT (Queens Park Rangers), Noah ANYADIKE (Cardiff City), Ollie BOSTOCK (West Bromwich Albion), Reece MUNRO (Manchester United), Robert TANKIEWICZ (Cardiff City), Ronan KPAKIO (Cardiff City), Tanatswa NYAKUHWA (Newport County- On loan from Cardiff City).
Cymru v Awstria
06/10/2026
Yr Ofal, Caernarfon
Rhestr Capiau D21 Cymru
Rhestr yn gywir ar 17 Medi 2026

