Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer Ghana a Romania

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewyr ar gyfer y gemau Cymru yn erbyn Ghana a Romania.

Mae Cymru yn croesawu nôl Connor Roberts, wrth iddo ddychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf mewn blwyddyn ar ôl anaf. Mae Ben Davies hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu’r pedair gêm ryngwladol ddiwethaf.

Bydd y gemau’n gweld tîm Craig Bellamy yn dechrau paratoadau ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA a fydd yn dechrau yn yr hydref. Bydd Cymru’n cystadlu yng Nghynghrair A ac yn wynebu rhai o dimau cryfach Ewrop; Portiwgal, Norwy a Denmarc.

Y gêm yn erbyn Ghana bydd y tro cyntaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd, a’r tro cyntaf i wlad Affricanaidd chwarae gêm ryngwladol dynion yng Nghymru.

Y gêm yn erbyn Romania yn Bucharest bydd y tro cyntaf i’r ddwy ochr gyfarfod ers 1993, a hon fydd gêm gartref gyntaf Gheorghe Hagi wrth reoli ei wlad.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Ghana ar gael i’w prynu ar wefan docynnau’r CBDC.

Archebwch eich tocynnau

Cymru v Ghana

Dydd Mawrth 2 Mawrth
Stadiwm Dinas Caerdydd

Ystadegau

Capiau Cymru

Tîm Dynion