Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer Kazakhstan a Canada

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 25 chwaraewr wrth i’w dîm deithio i Astana ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Kazakhstan (Dydd Iau 4 Medi) ac i’r Stadiwm Swansea.com i wynebu Canada (Dydd Mawrth 9 Medi).

Bydd dros 1,000 o gefnogwyr yn teithio i Astana fel rhan o’r Wal Goch ar gyfer y tro cyntaf i dîm dynion Cymru wneud y daith 3,000 milltir i Kazakhstan. Mae Bellamy wedi galw tri chwaraewr ddi-gap i’r garfan; Ronan Kpakio, Dylan Lawlor a Kai Andrews, sydd i gyd dan 21 oed.

Bydd chwaraewyr sy’n cynrychioli clwb Wrecsam yn rhan o’r garfan am y tro cyntaf ers dros degawd, ar ôl i Danny Ward, Nathan Broadhead a Kieffer Moore i gyd ymuno â’r clwb dros yr haf.

Mae Cymru’n eistedd yn ail yn Grŵp J gyda dwy fuddugoliaeth, un gêm gyfartal ac un golled ar ôl chwarae hanner ei gemau yn y rownd ragbrofol. Bydd enillwyr y grŵp yn mynd yn syth i bencampwriaeth Gwpan y Byd, a bydd pedwar lle arall eu penderfynu drwy gemau ail-gyfle sy’n cynnwys y 12 tîm ail safle a phedwar tîm o’r ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd diwethaf.

Bydd y gêm yn erbyn Canada ar Ddydd Mawrth 9 Medi (KO 7:45yh) yn nodi dychweliad i Abertawe i’r tîm, ar ôl iddynt chwarae yno diwethaf ym mis Tachwedd 2020 mewn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn UDA yn ystod pandemig COVID-19. Y gêm diwethaf gyda torf yn Stadiwm Swansea.com oedd ym mis Mawrth 2013 yn erbyn Croatia, mewn gêm lle chwaraeodd Craig Bellamy, y Prif Hyfforddwr presennol.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Canada ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC.

Archebwch eich tocynnau

Cymru v Canada

Dydd Mawrth 9 Awst
Stadiwm Swansea.com

Gwybodaeth yma

Capiau Cymru

Medi 2025

Cymru: Karl DARLOW (Leeds United), Adam DAVIES (Sheffield United), Danny WARD (Wrexham), Ben CABANGO (Swansea City), Jay DASILVA (Coventry City), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Ronan KPAKIO (Cardiff City), Dylan LAWLOR (Cardiff City), Chris MEPHAM (Bournemouth), Joe RODON (Leeds United), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Kai ANDREWS (Coventry City), David BROOKS (Bournemouth), Charlie CREW (Doncaster Rovers- On loan from Leeds United), Jordan JAMES (Stade Rennais), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Sorba THOMAS (Stoke City), Harry WILSON (Fulham), Nathan BROADHEAD (Wrexham), Liam Cullen (Swansea City), Mark HARRIS (Oxford United), Lewis KOUMAS (Birmingham City- On loan from Liverpool), Daniel JAMES (Leeds United), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Kieffer MOORE (Wrexham).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.