Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer Liechtenstein a Gogledd Macedonia

Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr ar gyfer gemau olaf rownd ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026, i ffwrdd yn erbyn Liechtenstein ac adref yn erbyn Gogledd Macedonia.

Mae Cymru bron ar eu cryfaf wrth fynd mewn i’r gemau, gyda Dan James nol yn y garfan ar ôl colli allan ar y gemau mis diwethaf oherwydd anaf.

Y gêm yn Vaduz ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd (KO 5pm GMT) bydd y tro cyntaf i Gymru deithio i Liechtenstein ers 2009, a disgwylir i 3,000 o gefnogwyr fod yn rhan o’r Wal Goch ar gyfer y gêm. Fe wnaeth y ddau dîm cwrdd ym mis Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle wnaeth tîm Bellamy enill 3-0 gyda Joe Rodon, Harry Wilson a Kieffer Moore yn sgorio i Gymru.

Bydd Cymru yna’n dychwelyd adref i wynebu Gogledd Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 18 Tachwedd (KO 7:45pm), gêm lle bydd y ddwy dîm yn chwilio am bwyntiau hollbwysig yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd. Rhannwyd y pwyntiau yn y gêm gyfatebol ym mis Mawrth, pan sgoriodd David Brooks gôl gyfartalwr munud olaf i sicrhau gêm gyfartal 1-1.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn drydydd yn Grŵp J, tair pwynt y tu ôl i Ogledd Macedonia ond gyda gêm ychwanegol i’w chwarae, a phedwar pwynt y tu ôl i Wlad Belg. Bydd enillwyr y grŵp yn mynd yn syth i Gwpan y Byd yng ngogledd America. Penderfynir ar y pedwar lle sy’n weddill trwy gemau ail gyfle sy’n cynnwys y 12 tîm a orffennodd yn ail yn eu grwpiau a phedwar tîm o gystadlaeuaeth Gynghrair y Cenhedloedd y llynedd.

Mae’r gêm yn erbyn Gogledd Macedonia (7:45pm dydd Mawrth 18 Tachwedd) ar y trywydd i werthu allan Stadiwm Dinas Caerdydd, ac mae tocynnau ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC.

Cymru: Karl DARLOW (Leeds United), Adam DAVIES (Sheffield United), Tom KING (Everton), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Jay DASILVA (Coventry City), Chris MEPHAM (West Bromwich Albion), Ben CABANGO (Swansea City), Joe RODON (Leeds United), Dylan LAWLOR (Cardiff City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Ronan KPAKIO (Cardiff City), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Leicester City, on loan from Stade Rennais), Liam CULLEN (Swansea City), Joel COLWILL (Cardiff City), Harry WILSON (Fulham), Nathan BROADHEAD (Wrexham), Rubin COLWILL (Cardiff City), Sorba THOMAS (Stoke City), Lewis KOUMAS (Birmingham City- On loan from Liverpool), Mark HARRIS (Oxford United), Kieffer MOORE (Wrexham), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), David BROOKS (Bournemouth), Dan JAMES (Leeds United).

Archebwch eich tocyn

Cymru v Gogledd Macedonia

7:45pm Dydd Mawrth 18 Tachwedd
Stadiwm Dinas Caerdydd

Mwy o wybodaeth

Rhestr capiau

Ystadegau tîm Cymru – Tachwedd 2025

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.