
Mae Craig Bellamy wedi enwi carfan o 26 chwaraewr wrth i Gymru geisio sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd FIFA 2026 drwy’r llwybr gemau ail-gyfle.
Mae Craig Bellamy yn croesawi nol Danny Ward a Rabbi Matondo i’r garfan am y tro gyntaf y tymor hyn, ond ni fydd Ben Davies, Chris Mepham na Kieffer Moore ar gael oherwydd anafiadau.
Bydd taith Cymru drwy’r gemau ail gyfle yn dechrau gyda gêm rownd gyn-derfynol yn erbyn Bosnia a Herzegovina ar nos Iau 26 o Fawrth o flaen torf orlawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd (cic gyntaf 7:45pm). Os bydd Cymru’n fuddugol, byddant yn wynebu yr Eidal neu Gogledd Iwerddon yn y rownd derfynol, a gynhelir unwaith eto yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth 31 o Fawrth (cic gyntaf 7:45pm).
Bydd Cymru’n chwarae o flaen y Wal Goch, ac yn ail-greu’r awyrgylch o nosweithiau mawr ac hanesyddol yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ymhlith y gemau hynny yw’r gemau ail-gyfle a arweiniodd at Gwpan y Byd FIFA 2022 yn erbyn Awstria a Wcráin, yn ogystal â’r fuddugoliaeth 7-1 dros Gogledd Macedonia mis Tachwedd diwethaf, pan sgoriodd Harry Wilson tair gôl gyda David Brooks, Brennan Johnson, Dan James a Nathan Broadhead hefyd yn sgorio.
Bydd enillydd y llwybr gemau ail-gyfle yn sicrhau lle yng Nghwpan y Byd FIFA yr haf hwn yng Ngogledd America, lle bydd yr ennillwyr yn gwynebu Canada, y Swistir a Qatar yng Ngrŵp B.
Cymru: Karl DARLOW (Leeds United), Danny WARD (Wrexham), Adam DAVIES (Sheffield United), Tom KING (Everton), Jay DASILVA (Coventry City), Rhys NORRINGTON-DAVIES (Queens Park Rangers- On loan from Sheffield United), Dylan LAWLOR (Cardiff City), Ben CABANGO (Swansea City), Joe RODON (Leeds United), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Ronan KPAKIO (Cardiff City), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Jordan JAMES (Leicester City- On loan from Stade Rennais), Liam CULLEN (Swansea City), Joel COLWILL (Cardiff City), Harry WILSON (Fulham), David BROOKS (Bournemouth), Nathan BROADHEAD (Wrexham), Brennan JOHNSON (Crystal Palace), Sorba THOMAS (Stoke City), Mark HARRIS (Oxford United), Lewis KOUMAS (Hull City- On loan from Liverpool), Dan JAMES (Leeds United), Rabbi MATONDO (Rangers), Rubin COLWILL (Cardiff City).