Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 24 chwaraewr cyn ei gemau cyntaf fel rheolwr ei wlad.
Mae Ollie Cooper a Mark Harris wedi cael eu galw’n ôl i’r garfan am y tro cyntaf mewn dros flwyddyn, ac fydd Sorba Thomas yn rhan o’r garfan unwaith eto. Mae dau chwaraewr ddi-gap yn y garfan, gyda Owen Beck yn cael ei alw i fyny o’r tîm D21 a’r gôl-geidwad Karl Darlow, ŵyr Ken Leek a oedd yn aelod o garfan Cwpan y Byd FIFA 1958, bydd yn ymuno â’r garfan am y tro cyntaf.
Ar ôl symud clybiau dros yr haf, mae Jordan James (Stade Rennais), Kieffer Moore (Sheffield United), Joe Rodon (trosglwyddiad parhaol i Leeds United), a Lewis Koumas (ar fenthyg i Stoke City) yn rhan o’r garfan.
Bydd ymgyrch Cynghrair Cenhedloedd UEFA Bellamy yn dechrau yn erbyn Türkiye yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Gwener 6 Medi (CG 19:45) cyn wynebu Montenegro dri diwrnod yn ddiweddarach (CG 20:45 CET dydd Llun 9 Medi), lle mae UEFA wedi symud y gêm i Nikšić oherwydd safon y cae.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Türkiye ar gael i’w prynu ar wefan docynnau FAW.
Cymru: Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Karl DARLOW (Leeds United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Owen BECK (Blackburn Rovers – On loan from Liverpool), Joe RODON (Leeds United), Chris MEPHAM (Bournemouth), Ben CABANGO (Swansea City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Connor ROBERTS (Burnley), Jordan JAMES (Stade Rennais), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Aaron RAMSEY (Cardiff City), Ollie COOPER (Swansea City), Sorba THOMAS (Nantes – On loan from Huddersfield Town), Kieffer MOORE (Sheffield United), Lewis KOUMAS (Stoke City – On loan from Liverpool), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Harry WILSON (Fulham), Daniel JAMES (Leeds United), Mark HARRIS (Oxford United), Liam CULLEN (Swansea City), Rabbi MATONDO (Rangers).