Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi am gêm Gweriniaeth Iwerddon

Mae Jon Grey wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu’r Weriniaeth Iwerddon ar ddydd Mawrth 27ain o Chwefror (KO 7:30pm)

Mae Grey wedi galw fyny 5 chwaraewr newydd am y tro gyntaf, gan gynnwys tri chwaraewr o’r tîm D19; Tianna Teisar, Olivia Francis a Mayzee Davies a fydd yn ymuno efo’r garfan ar ôl dwy gêm yn erbyn yr Alban ym Mharc y Glowyr. Bydd y chwaraewr canol cae Lois Joel a’r ymosodwr Tegan McGowan hefyd yn ymuno efo’r garfan am y tro gyntaf.

Yn ogystal â’r 5 chwaraewr newydd, bydd y chwaraewyr D17 Soffia Kelly, Mared Griffiths ac Elena Cole efo’r tîm am y ddau ddiwrnod gyntaf, a bydd enw newydd ar y crys rhif 9 ar ôl i Kayleigh Green ddiweddaru ei enw i Kayleigh Barton ar ôl priodi.

Gall cefnogwyr gwylio’r gêm ar BBC Wales ac i’r rhai sydd am deithio i Ddulyn mae tocynnau ar gael ar y linc yma trwy’r FAI. 

Cymru: Olivia CLARK (Bristol City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United – dual signed Watford), Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Josie GREEN (Leicester City), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Manchester United), Charlie ESTCOURT (Reading), Ella POWELL (Bristol City), Lily WOODHAM (OL Reign), Sophie INGLE (Chelsea), Alice GRIFFITHS (Southampton), Angharad JAMES (OL Reign), Lois JOEL (London City Lionesses), Rachel ROWE (Rangers), Ffion MORGAN (Bristol City), Jess FISHLOCK (OL Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Carrie JONES (Bristol City), Kayleigh BARTON (Charlton Athletic), Elise HUGHES (Crystal Palace), Mary MCATEER (Sunderland), Tegan MCGOWAN (Charlton Athletic), Tianna TEISAR (Bristol City – dual signed Cardiff City Ladies), Olivia FRANCIS (Manchester United), Mayzee DAVIES (Manchester United).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.