
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi agor estyniad i’w Bencadlys yn Hensol, efo buddsoddiad o £3m i ddatblygu amgylchedd elît ar gyfer Timau Cenedlaethol Cymru a’r Gymdeithas yn ehangach.
Ar y cae, mae’r gwaith wedi ehangu’r gampfa a ddefnyddir gan Dimau Cenedlaethol Cymru ac yn darparu mwy o le ar gyfer y tîm dadansoddi a gofynion gwyddoniaeth chwaraeon, wrth ymyl ystafell feddygol a oedd eisoes yn ei lle. Mae’r ardal paratoi ar gyfer chwaraewyr i defnyddio cyn ymarfer wedi’i ehangu, ac mae ystafelloedd newid hyfforddwyr hefyd yn rhan o’r adain newydd.
Oddi ar y cae, bydd Timau Cenedlaethol Cymru yn elwa o ddarlithfa newydd a fydd yn cynnal cyfarfodydd tîm a sesiynau cyfryngau, gyda chyfleusterau sain/fideo o’r safon uchaf mewn ystafell amlbwrpas i drafod tactegau tîm ac hefyd i groesawu cyfryngau’r byd i siarad â Phrif Hyfforddwyr a chwaraewyr Cymru cyn gemau. Fe elwir yr ystafell y Wynnstay 1876, yn gyfeirio at hanes ac etifeddiaeth CBDC drwy ei blwyddyn sefydlu a leoliad y sefydliad.
Mae’r prosiect, a barodd ddeunaw mis, hefyd yn cynyddu’r swyddfeydd a’r argaeledd ystafelloedd cyfarfod i staff gweinyddol CBDC, a fydd yn elwa bob adran o fewn y sefydliad.
Gwelir y gwaith fel buddsoddiad sylweddol ar safle lle mae CBDC wedi’i leoli ers 2020, gyda rhan o’r buddsoddiad o £3m yn dod o gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae ymroddiad CBDC i fod yn gynaliadwy hefyd wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith, gyda’r adain newydd yn cael ei bweru gan baneli solar a system rheoli adeilad newydd yn cael ei gweithredu i rheoli defnydd pŵer. Mae ardal ardd wedi’i hadeiladu i gefnogi bywyd gwyllt lleol, tra bo cadeiriau newydd y swyddfa wedi’u gwneud o ddeunydd sydd wedi’i ailgylchu.






Wrth siarad am y gwaith, dywedodd Prif Weithredwr y FAW, Noel Mooney:
“Rydyn ni’n gyffrous iawn i agor yr adain newydd ein Bencadlys yn Hensol, gan fuddsoddi ymhellach yn Nhimau Cenedlaethol Cymru a’r Gymdeithas ehangach. Mae’n hollbwysig bod ein Timau Cenedlaethol a’n staff yn cael y cyfleusterau gorau posibl i’n galluogi i gyrraedd ein potensial, ledled Cymru ac ar y llwyfan byd-eang.”
Bydd yr adain newydd yn cael ei ddefnyddio gan Dîm Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ar gyfer gemau ryngwladol tim y dynion ym mis Medi pan fydd carfan Craig Bellamy yn wynebu Kazakhstan a Canada.





