
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi datblygu fframwaith ysgolion newydd o’r enw CicStart.
Wedi’i chreu mewn partneriaeth â’r Youth Sport Trust, mae’r adnodd unigryw hwn wedi’i gynllunio i wella darpariaeth pêl-droed i blant 7-11 oed mewn ysgolion cynradd ac ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar draws Cymru.
Mae’r Fframwaith CicStart yn adnodd strwythuredig sy’n ceisio cefnogi darparwyr i greu cyfleoedd pêl-droed hwyliog, diogel a chynhwysol fel rhan o gynnig aml-chwaraeon yr ysgol. Mae’r fframwaith newydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cynyddu cyfranogiad, dysgu a datblygiad.
Daw cyflwyno a gweithredu CicStart ar adeg allweddol i bêl-droed yng Nghymru, wrth i dîm Cymru baratoi ar gyfer Pencampwriaeth UEFA EWRO 2025. Mae CBDC yn cydnabod y bydd yr haf hwn yn drobwynt ar gyfer diddordeb a chyfranogiad ym mhêl-droed Cymru, ac mae CicStart yn anelu at gefnogi’r galw cynyddol hwn.
Mae’r fframwaith yn gobeithio sicrhau profiad pêl-droed cyson ac o ansawdd uchel i blant ledled Cymru drwy gefnogi addysgwyr a hyfforddwyr gyda hyfforddiant ac adnoddau, gan ddarparu llwybrau clir i gyfleoedd llawr gwlad. Mae CicStart hefyd yn tynnu sylw at rôl pêl-droed mewn addysg, gan hyrwyddo iechyd, lles a llythrennedd corfforol, wrth gyfrannu at y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Dywedodd Ben Field, Pennaeth Pêl-droed Llawr Gwlad CBDC: “Mae Fframwaith CicStart yn gam sylweddol ymlaen i bêl-droed mewn ysgolion ledled Cymru. Drwy gefnogi addysgwyr a darparwyr i ddarparu profiadau pêl-droed o ansawdd uchel i blant o bob gallu drwy weithgareddau ysgol, rydym yn sicrhau bod pêl-droed yn parhau i fod yn brofiad hwyliog, cynhwysol a datblygiadol i bob plentyn.



“Diolch i’n cydweithrediad â’r Youth Sport Trust a chefnogaeth o bartneriaid allweddol eraill yn y gêm, bydd y fframwaith hwn yn grymuso addysgwyr a hyfforddwyr gydag adnoddau hanfodol, wrth alinio â mentrau fel Model Cynhwysiant Gweithgareddau, Chwaraeon Anabledd Cymru er mwyn creu profiadau gwirioneddol i blant sy’n cefnogi lles a datblygiad sgiliau hanfodol.
“Rydym mor werthfawrogol o’r gweithlu o ddarparwyr medrus a hyderus sy’n gweithredu’r fframwaith ac yn sicrhau bod pêl-droed yn chwarae rhan allweddol mewn addysg, iechyd a lles. Rydym yn gyffrous iawn i weld ysgolion, hyfforddwyr a chymunedau yn cofleidio CicStart a helpu i lunio dyfodol pêl-droed yng Nghymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae iechyd corfforol a meddyliol da yn hanfodol i’n dysgwyr datblygu a ffynnu. Mae’n wych gweld pêl-droed Cymru yn mynd o nerth i nerth, a bod cenhedlaeth newydd o blant a phobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i ddatblygu eu sgiliau, cadw’n iach ac egnïol ac i fwynhau chwarae pêl-droed.
“Mae Fframwaith CicStart yn ddatblygiad hynod gyffrous a fydd yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i ddod ag ymarfer corff a dysgu at ei gilydd. Rwy’n ddiolchgar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a’r Youth Sport Trust am ddatblygu’r fframwaith arloesol newydd hwn a fydd o fudd i gymaint o’n dysgwyr yma yng Nghymru.”
CicStart
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at y Fframwaith CicStart
.