CBDC yn lansio Llunio Cymru – cynllun deng mlynedd ar gyfer Cymru hyderus, lwyddiannus a chynhwysol 

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi lansio Llunio Cymru, ei strategaeth ar gyfer 2026-2036: cynllun deng mlynedd i dyfu pêl-droed ym mhob cymuned, cryfhau’r gêm ddomestig a helpu timau cenedlaethol Cymru i lwyddo ar lwyfan y byd. 

Wrth ei chalon, mae Llunio Cymru yn ymwneud â sicrhau bod mwy o bobl yn gallu mwynhau pêl-droed am oes – fel chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr, cefnogwyr ac aelodau clybiau, wrth adeiladu’r llwybrau a’r amgylcheddau sydd eu hangen ar bêl-droed Cymru i ffynnu. 

Mae’r strategaeth wedi’i seilio ar ddiben CBDC: adeiladu Cymru hyderus, llwyddiannus a chynhwysol trwy bêl-droed. Bydd pedwar gwerth yn ei llywio – rhagoriaeth, teulu, parch a dewrder – ynghyd ag ymrwymiad i ddathlu hunaniaeth Gymreig, gweithio ar y cyd a bod yn dryloyw ynghylch yr effaith a gyflawnir. 

Mae Llunio Cymru wedi’i lunio gan gymuned bêl-droed Cymru. Casglodd CBDC dros 3,000 o gyfraniadau drwy weithdai, ymgynghoriadau a sesiynau ledled Cymru, gan helpu i nodi’r cyfleoedd a’r blaenoriaethau a fydd yn llywio degawd nesaf y gêm. 

Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC: “Mae Llunio Cymru yn ein hymrwymiad i adeiladu Cymru hyderus, lwyddiannus a chynhwysol trwy bêl-droed.

“Mae’n strategaeth a luniwyd gan y bobl sy’n gwneud ein gêm yn arbennig – chwaraewyr, gwirfoddolwyr, clybiau, hyfforddwyr, dyfarnwyr, cefnogwyr a chymunedau ledled y wlad.

“Dros y degawd nesaf, byddwn yn ehangu cyfleoedd ar bob lefel o’r gêm, gan anelu at lwyddiant y gall y genedl gyfan ei rannu.” 

Pêl-droed yn gwella bywydau ym mhob cymuned 

Un o brif uchelgeisiau’r strategaeth yw gwneud pêl-droed yn fwy hygyrch, croesawgar a chynaliadwy i bawb. 

Nod CBDC yw tyfu nifer y chwaraewyr cofrestredig yng Nghymru o 120,000 i 160,000 erbyn 2036, gan gynnwys o leiaf 20,000 yn fwy o fenywod a merched. Bydd hefyd yn gweithio i haneru nifer y chwaraewyr 12 i 17 oed sy’n rhoi’r gorau i chwarae, gan gydnabod pwysigrwydd cadw pobl ifanc mewn cysylltiad â phêl-droed yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol hynny. 

Bydd prosiectau penodol yn helpu i dyfu pêl-droed yn y 100 cymuned fwyaf amrywiol a difreintiedig yng Nghymru, tra bydd CBDC yn ehangu cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan yn y gêm. Bydd y strategaeth yn cefnogi ffyrdd cynhwysol a hyblyg o chwarae, gan sicrhau bod lle mewn pêl-droed i bobl o bob oed, gallu a chefndir. 

Mae’r cynllun yn rhoi pobl wrth galon y gêm. Ymhlith y targedau mae cynyddu nifer yr hyfforddwyr cymwys sy’n gysylltiedig â CBDC gan 30%, sicrhau bod 75% o wirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u paratoi i lwyddo, a sicrhau bod pob gêm gystadleuol ar lefel dan 12 a hŷn yn cael ei dyfarnu gan ddyfarnwr niwtral cymwys erbyn 2035. 

Bydd creu’r llefydd iawn i chwarae yr un mor bwysig. Uchelgais CBDC yw bod gan bob cymuned yng Nghymru fynediad at gyfleusterau pêl-droed o ansawdd o fewn 15 munud, gan roi blaenoriaeth i’r ardaloedd a’r bobl sydd â’r angen mwyaf amdanynt. Bydd clybiau yn cael cymorth i ddod yn fwy cynhwysol, cynaliadwy ac wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. 

Bydd pêl-droed diogel, cadarnhaol a pharchus yn parhau i fod yn hanfodol. Bydd CBDC yn gweithio i leihau nifer yr achosion o gasineb a gwahaniaethu 70% erbyn 2036, gan sicrhau ar yr un pryd fod pob adroddiad o wahaniaethu yn cael ei ymchwilio’n llawn. 

Creu llwybrau i lwyddo 

Wrth gynyddu cyfranogiad, mae Llunio Cymru hefyd yn esbonio sut y bydd Cymru yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff cymorth. 

Bydd y strategaeth yn dod â phêl-droed llawr gwlad, adnabod talent, clybiau domestig, clybiau proffesiynol a thimau cenedlaethol yn agosach at ei gilydd drwy lwybr chwaraewyr elît sy’n gynhwysol, o ansawdd uchel a chynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys sefydlu pedair academi elît o fewn clybiau proffesiynol, ochr yn ochr ag academïau domestig ledled Cymru, gan ddarparu cyfleoedd datblygu o safon fyd-eang i chwaraewyr ifanc. Bydd y systemau hyn yn cefnogi chwaraewyr elît, dynion a menywod, i gyrraedd ein timau cenedlaethol. 

Bydd CBDC yn canolbwyntio ar gydweithio â’r clybiau proffesiynol yng Nghymru, gyda’r nod o greu pedair system datblygu chwaraewyr o’r safon uchaf i gefnogi chwaraewyr elît, dynion a menywod, i gyrraedd ein timau cenedlaethol. 

Bydd CBDC yn datblygu’r bobl a’r amgylcheddau sy’n sail i lwyddiant elît, gan gyfuno hyfforddi o safon ragorol â gwyddor chwaraeon, gwasanaethau perfformiad, data ac arloesedd. Bydd hunaniaeth Gymreig yn parhau i fod wrth wraidd llwybr y timau cenedlaethol, gan greu llwybrau clir a chynhwysol i chwaraewyr talentog gynrychioli Cymru. 

Nod CBDC yw sicrhau bod o leiaf dau chwaraewr o bob llwybr yn symud ymlaen i dimau cenedlaethol hŷn dynion a menywod Cymru bob blwyddyn. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar adnabod, cefnogi a chadw chwaraewyr â photensial uchel – gan gynnwys targed o gadw 95% o chwaraewyr â chymhwysedd deuol o fewn timau cenedlaethol ieuenctid Cymru. 

O ran y timau hŷn, mae’r uchelgais yn glir: dylai timau dynion a menywod Cymru gymryd rhan mewn 50% o brif dwrnameintiau rhyngwladol, cyrraedd y rowndiau terfynol yn UEFA EURO 2028 ac yng Nghwpan y Byd Menywod FIFA 2035, a gwella eu safleoedd FIFA i’r 20 uchaf i’r dynion a’r 24 uchaf i’r menywod. 

Mae’r strategaeth hefyd yn ceisio cryfhau’r gêm ddomestig. Ei nod yw cynyddu ymgysylltiad â’r cynghreiriau cenedlaethol gan 150% dros y pum mlynedd nesaf, cynyddu portffolio masnachol pêl-droed domestig gan 300%, a gweld y Cymru Premier a’r Adran Premier ymhlith prif gynghreiriau Ewrop o ran cyfleoedd i chwaraewyr ifanc. 

Degawd o gyfleoedd 

Mae’r deng mlynedd nesaf yn cynnig eiliadau arwyddocaol i bêl-droed Cymru, gan gynnwys cynnal UEFA EURO 2028, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA 2029 a Chwpan y Byd Menywod FIFA 2035. 

Ond mae Llunio Cymru yn ymwneud â mwy na digwyddiadau arwyddocaol. Mae’n ymrwymiad i ddefnyddio grym pêl-droed i ddod â phobl ynghyd, creu cyfleoedd gydol oes a chynrychioli Cymru a thimau cenedlaethol Cymru gyda balchder – o gaeau llawr gwlad a chlybiau lleol i lwyfannau mwyaf pêl-droed y byd. 

Bydd y gwaith yn cael ei gefnogi gan ffocws cryf ar hyfforddi a dyfarnu, cyfleusterau, diogelu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, y Gymraeg, cynaliadwyedd amgylcheddol, llywodraethu, cyfathrebu a’r defnydd o ddata a mewnwelediad. 

Dros y degawd nesaf, bydd CBDC yn gweithio gyda chlybiau, cynghreiriau, cymdeithasau ardal, ysgolion, cymunedau, partneriaid a chefnogwyr i droi’r strategaeth yn newid ystyrlon, gan adeiladu gêm sy’n perthyn i bawb a Chymru sy’n hyderus, llwyddiannus a chynhwysol. 

Llunio Cymru

Darllenwch fwy

Cynllun Perfformiad Uchel 

Mae Cynllun Perfformiad Uchel CBDC yn nodi sut y bydd Cymru yn creu llwybr cysylltiedig i chwaraewyr talentog, dynion a menywod, gyrraedd eu potensial a chystadlu ar y lefel uchaf. Bydd yn cysylltu pêl-droed llawr gwlad, adnabod talent, academïau, clybiau domestig a phroffesiynol, a thimau cenedlaethol, gan roi’r hyfforddiant, cystadleuaeth, addysg a chymorth perfformiad sydd eu hangen ar chwaraewyr ar bob cam. 

Bydd y cynllun yn datblygu’r bobl a’r amgylcheddau y tu ôl i lwyddiant elît: hyfforddwyr ac ymarferwyr eithriadol, gwasanaethau perfformiad o safon fyd-eang, a defnydd mwy deallus o ddata, dadansoddi ac arloesedd. Bydd yn cadw hunaniaeth Gymreig wrth galon amgylchedd y timau cenedlaethol, gan greu llwybrau clir a chynhwysol i’r genhedlaeth nesaf gynrychioli Cymru. 

Dr David Adams, Prif Swyddog Pêl-droed CBDC: “Bydd hunaniaeth Gymreig yn parhau i fod wrth wraidd y modd rydym yn datblygu ac yn cynrychioli Cymru.

“Ein huchelgais yw creu llwybr cysylltiedig sy’n rhoi cyfle i bob chwaraewr talentog o Gymru gyrraedd ei botensial. Drwy ddod â phêl-droed llawr gwlad, academïau, clybiau domestig a phroffesiynol, a’n timau cenedlaethol ynghyd, gallwn ddarparu’r hyfforddiant, y cymorth a’r amgylchedd perfformiad sydd eu hangen i gystadlu â’r goreuon.

“Byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio â’r clybiau proffesiynol yng Nghymru i greu pedair system datblygu chwaraewyr o’r safon uchaf, gan gefnogi chwaraewyr elît, dynion a menywod, i gyrraedd ein timau cenedlaethol.” 

Darllenwch fwy

Cynllun Perfformiad Uchel

2026 – 2036

Cynllun Cyfranogiad 

Mae Cynllun Cyfranogiad CBDC yn troi uchelgais Llunio Cymru ar gyfer pêl-droed cymunedol yn weithredu: gan ei gwneud yn haws i bobl o bob oed, gallu a chefndir chwarae, hyfforddi, dyfarnu, gwirfoddoli a theimlo eu bod yn perthyn. Ei nod yw tyfu nifer y chwaraewyr cofrestredig o 120,000 i 160,000 erbyn 2036, gan gynnwys o leiaf 20,000 yn fwy o fenywod a merched. 

Bydd yn cefnogi’r bobl, y clybiau a’r lleoedd sy’n gwneud pêl-droed yn bosibl – o gyfleoedd chwarae hyblyg a chlybiau lleol cryfach i amgylcheddau mwy diogel a chyfleusterau gwell. Bydd y cynllun yn canolbwyntio buddsoddiad lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan helpu pêl-droed i wella bywydau mewn cymunedau ledled Cymru. 

Ben Field, Pennaeth Pêl-droed Llawr Gwlad CBDC: “Mae gan bêl-droed y grym i wella bywydau ym mhob cymuned, ac mae’r cynllun hwn yn ymwneud â sicrhau bod mwy o bobl yn cael cyfle i fod yn rhan ohono.

“Rydym am ddileu’r rhwystrau i chwarae, cefnogi’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud y gêm yn bosibl, gwella cyfleusterau a helpu clybiau i ddod yn angorau hyd yn oed cryfach yn eu cymunedau. Ein ffocws yw creu pêl-droed diogel, croesawgar a phleserus i bawb.” 

Darllenwch fwy

Cynllun Cyfranogiad 

2026 – 2036

Cynllun Pêl-droed Menywod a Merched – Yn Lansio ym mis Tachwedd

Bydd CBDC yn cyhoeddi cynllun pwrpasol ar gyfer pêl-droed menywod a merched ym mis Tachwedd, a fydd ar gael yma ar y wefan.

Bethan Woolley, Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched CBD: “Mae hwn yn gyfle hollbwysig i bêl-droed menywod a merched yng Nghymru. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi ein Strategaeth Menywod a Merched, sy’n benderfynol o greu mwy o leoedd i chwarae, llwybrau mwy gweladwy i symud ymlaen a mwy o gyfleoedd i hyfforddi, dyfarnu, gwirfoddoli ac arwain.

“Drwy dyfu’r gêm mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy, gallwn sicrhau bod pob merch a menyw sydd am fod yn rhan o bêl-droed yn teimlo mai ei gêm hi yw hi.”