
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi lansio Rhaglen Fentora PAWB. Nod y rhaglen newydd hon yw cefnogi ac ysbrydoli unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd, Treftadaeth Gymysg a Lleiafrifoedd Ethnig sydd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd o fewn pêl-droed.
Gan ddechrau ym mis Ebrill 2025 ac yn rhedeg am chwe mis, bydd y rhaglen yn cynnig mentoriaeth i gyfranogwyr, cyfleoedd rhwydweithio, profiadau ymarferol a gweithdai datblygu sgiliau. Os ydych chi’n angerddol am bêl-droed, bydd y rhaglen hon yn cynnig cyflwyniad gwych i ddilyn rôl yn y gêm. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd ac awydd i ddysgu a datblygu. Dysgwch fwy am y rhaglen, dyddiadau’r sesiynau a sut i wneud cais yma.
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Cynghori Cydraddoldeb CBDC, Sean Wharton: “Mae’r Rhaglen Mentora PAWB yn fenter hollbwysig yn ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gynyddu cynrychiolaeth a chynhwysiant o fewn y gêm. Trwy ddarparu mentoriaeth, cyfleoedd rhwydweithio a phrofiad ymarferol, bydd y rhaglen hon yn grymuso unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd, Treftadaeth Gymysg a Lleiafrifoedd Ethnig i gymryd eu camau cyntaf ym myd pêl-droed. Rydym yn falch o gefnogi’r rhaglen hon, a fydd yn helpu i dorri rhwystrau i lawr a datblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent amrywiol ym mhêl-droed Cymru.”
Ychwanegodd Jason Webber, Uwch Reolwr EDI a Chynaliadwyedd CBDC: “Nod y Rhaglen Mentora PAWB yw agor drysau a chreu cyfleoedd. Rydym eisiau cefnogi ac ysbrydoli unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd, Treftadaeth Gymysg a Lleiafrifoedd Ethnig i gymryd eu cam cyntaf ym myd pêl-droed. Gyda phrofiadau ymarferol, mentoriaeth a chyfleoedd rhwydweithio, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i helpu cyfranogwyr i adeiladu hyder, sgiliau a chysylltiadau tuag at ddyfodol yn y gêm.”
Mae ceisiadau ar agor nawr a byddant yn cau ddydd Gwener, 21 o Fawrth 2025. Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim ac ar agor i unigolion 18 oed a hŷn o gefndiroedd Du, Asiaidd, Treftadaeth Gymysg a Lleiafrifoedd Ethnig.
Rhaglen Fentora PAWB
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.