Chris Gunter i Rheoli Gymru ym Mhencampwriaeth EURO D19

Mae Chris Gunter wedi’i benodi’n Brif Hyfforddwr Cymru D19 ar gyfer gweddill tymor 2025/26, a fydd yn arwain y tîm ym Mhencampwriaeth UEFA EURO D19 a fydd yn cymryd lle yng ngogledd Cymru dros yr haf.

Yn ddeiliad Trwydded Pro UEFA, mae Gunter yn dod â chyfoeth o brofiad rhyngwladol i’r swydd yn dilyn gyrfa chwarae o 15 mlynedd gyda Cymru, pan enillodd 109 cap rhyngwladol.

Roedd Gunter yn rhan allweddol o dîm Chris Coleman a enillodd calonau’r genedl drwy gyrraedd rownd gyn-derfynol UEFA EURO 2016. Chwaraeodd Gunter bob munud o’r chwe gêm yn y pencampwriaeth, gan chwarae’r groesiad perffaith ar gyfer peniad Sam Vokes yn y fuddugoliaeth enwog 3-1 yn erbyn Gwlad Belg yn y rownd wyth olaf.

Enillodd y cyn-amddiffynnwr ei cap gyntaf dros Gymru yn 2007 pan oedd yn 17 oed, ac aeth ymlaen i gynrychioli ei wlad mewn tair pencampwriaeth rhyngwladol, a gyrraedd y camp o fod y chwaraewr dynion cyntaf i ennill 100 cap dros Gymru.

Yn dilyn ei ymddeoliad o chwarae ym mis Mawrth 2023, ymunodd Gunter â tîm hyfforddi y Tîm Cenedlaethol Dynion, pan fethodd Cymru o drwch blewyn ar sicrhau lle ym Mhencampwriaeth UEFA EURO 2024. Yn ystod y cyfnod hynny, gweithiodd Gunter ar ddatblygu talent ifanc o fewn tîm cenedlaethol.

Penodwyd Gunter yn brif hyfforddwr Cymru D19 ym mis Awst 2024 cyn cymryd gofal o’r garfan D17 llynedd. Fel cynnyrch o system grwpiau oedran Cymru ei hun, mae Gunter wedi cynrychioli Cymru ar lefelau D17, D19 a D21. Bydd bellach yn arwain Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA EURO D19 yr haf hwn, digwyddiad hanesyddol i bêl-droed Cymru a gynhelir yn y gogledd.

Bydd Gunter yn cymryd gofal o’r tîm yn ystod ffenestr ryngwladol FIFA ym mis Mawrth ac yn y twrnamaint terfynol yr haf hwn. Bydd hefyd yn parhau yn ei rôl fel Prif Hyfforddwr y garfan MU17 wrth iddynt baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Grŵp B UEFA U17 EURO yn San Marino ym mis Ebrill.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Gunter: “Rwy’n falch iawn o fod yn arwain y grŵp hwn i’r twrnamaint terfynol. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o’r chwaraewyr o’r blaen, ac mae gwybod pa mor dda y gallant fod yn rhoi cyffro mawr i mi.

“Mae cynrychioli eich gwlad bob amser yn anrhydedd enfawr, ac i wneud hynny mewn pencampwriaeth derfynol EURO fydd yn brofiad arbennig i bawb sy’n gysylltiedig.

“Mae cynnal y twrnamaint yn dangos ble mae pêl-droed Cymru arni a’r gwaith sydd wedi mynd i mewn iddo. Gyda’r gefnogaeth anhygoel a gawn ym mis Mehefin, ni allaf aros i weld y chwaraewyr yn perfformio ar y lefel uchaf.”

Ychwanegodd Prif Swyddog Pêl-droed yr FAW, Dr David Adams: “Mae cynnal twrnamaint terfynol gyda grŵp o chwaraewyr talentog yn fantais fawr wrth ddatblygu rhyngwladolwyr Cymru’r dyfodol, fel y gwelwyd pan gymhwysodd ein carfanau MU17 yn 2022 a 2023.

“Mae Chris wedi dangos yn ystod ei gyfnod gyda ni fod ganddo’r gallu i greu amgylchedd ffyniannus, tra hefyd yn arwain a datblygu chwaraewyr talentog. Rydym yn hyderus y bydd y twrnamaint hwn yn llwyddiant ac yn gadael etifeddiaeth barhaol i bêl-droed Cymru.”

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.