Cymru a SUDU yn Dadorchuddio Cit Cartref 2026–28 wrth i Siop Swyddogol Newydd Cymru Lansio

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a’i chyflenwr cit newydd, SUDU, heddiw yn dadorchuddio Cit Cartref Cymru 2026–28, y cyntaf yn eu partneriaeth newydd, ochr yn ochr â lansiad Siop Swyddogol Cymru gwbl newydd.

Ar ôl blwyddyn o waith datblygu, mae’r cit wedi’i greu mewn cydweithrediad agos â CBDC a chwaraewyr y timau cyntaf ar draws y carfannau dynion a menywod. Drwy gyfres o weithdai dylunio a sesiynau ffitio, mae’r chwaraewyr eu hunain wedi helpu i lunio ffit, golwg a theimlad y cit, gan sicrhau dyluniad sy’n canolbwyntio ar berfformiad ac sydd wedi’i gynllunio o amgylch y rhai sy’n ei wisgo.

Stori am dreftadaeth, wedi’i hadrodd yn ddilys

Mae dilysrwydd wrth wraidd popeth y mae SUDU yn ei wneud. Gan wrthod dyluniadau templed a dyluniadau wedi’u hailddefnyddio, mae’r brand wedi ymrwymo i weithio law yn llaw â’r gymdeithas a’i chefnogwyr i ddeall DNA y genedl a dod â straeon gwirioneddol ac ystyrlon yn fyw.

Ar gyfer y cit cartref, hanes a threftadaeth yw’r stori honno: cydnabod taith Cymru hyd yma cyn symud ymlaen. Gan weithio mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru, canolbwyntiodd tîm dylunio SUDU ar grefft hynafol gwehyddu brethyn dwbl Cymreig, gan astudio darnau archif a fu’n ddylanwad uniongyrchol ar y dyluniad terfynol. Y canlyniad yw patrwm pwrpasol sy’n tynnu ar elfennau o dapestri Cymreig traddodiadol, wedi’i wireddu drwy orffeniad boglynnog ar y cit proffesiynol a’i gyflwyno mewn arlliw trawiadol o goch eiconig Cymru.

Mae treftadaeth i’w gweld ym mhob manylyn. Ar gefn y crys ceir sgrôl sy’n dwyn y geiriau “Gorau Chwarae Cyd Chwarae”, egwyddor sydd wedi’i gwreiddio yn hunaniaeth pêl-droed Cymru. Mae siorts a sanau cydgysylltiedig yn cwblhau’r edrychiad o’r pen i’r traed, tra bo defnyddiau wedi’u peiriannu yn darparu anadladwyedd ac yn cludo lleithder oddi wrth y corff, fel bod y dilledyn yn gweithio gyda’r chwaraewr.

Find out more

Siop Cymru

Launching soon

Yr Edau sy’n ein Harwain Adref

Mae’r cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru yn ymestyn i’r ymgyrch lansio ei hun, gyda’r amgueddfa’n benthyca defnyddiau a brethynnau archif i greu cefnlenni ar gyfer y chwaraewyr. Daethpwyd hefyd â chadair Eisteddfod arbennig iawn o’r 1950au allan o’r archif ar gyfer y sesiwn ffotograffau.

Lleisiwyd yr ymgyrch gysylltiedig, “Yr Edau sy’n ein Harwain Adref”, gan Lloyd Lewis, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gefnogwyr Cymru mewn llythyr caru at y genedl. Mae’r edau yn drosiad am Gymreictod — y teimlad hwnnw o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes, ni waeth ble rydych chi yn y byd. Mae’n edau sy’n rhedeg drwom, yn croesi ac yn cydblethu drwy ein bywydau, ac yn dod i’r amlwg yr eiliad y caiff y crys ei wisgo a’r ddraig yn ymddangos ar y frest: y teimlad llythrennol o gartref a pherthyn.

Siop Cymru — Siop Swyddogol Newydd Cymru

Bydd Siop Cymru, Siop Swyddogol Cymru gwbl newydd, yn lansio am 9am ddydd Gwener 7 Awst, gan gychwyn partneriaeth ehangach CBDC â Levy Merchandising ym maes manwerthu ac e-fasnach. Y siop fydd cartref nwyddau swyddogol ac unigryw Cymru, gan gynnwys yr holl gitiau technegol ac ystodau hyfforddi.

Bydd yr ystodau Cartref ar gyfer Hyfforddi, a Chyn y Gêm hefyd ar gael i’w prynu ddydd Gwener 7 Awst ochr yn ochr â’r cit cartref, gyda phob un yn cynnwys ei dyluniad a’i stori bwrpasol ei hun.

Mae’r ystod Hyfforddi Cartref wedi’i seilio ar y diwydiant a adeiladodd genedl, gan dynnu ysbrydoliaeth o ddiwydiant glo Cymru. Mae’n cynnwys print geometrig beiddgar sy’n seiliedig ar ddyluniadau pen pwll, wedi’i gyflwyno mewn coch a du.

Mae’r ystod Cyn y Gêm yn anthem y gallwch ei gwisgo. Wedi’i hysbrydoli gan Yma o Hyd, mae’n cynnwys print graffig beiddgar sy’n cyfleu egni’r eiliadau cyn y gic gyntaf.

Bydd Cit Cartref Cymru 2026–28 a’r ystodau cysylltiedig yn lansio’n unigryw i’w prynu drwy Siop Swyddogol Cymru ddydd Gwener 7 Awst. Bydd y citiau hefyd ar gael yn JD a Sports Direct o ddydd Gwener 7 Awst.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae’r bartneriaeth hon yn cynrychioli carreg filltir i CBDC. Dyma’r cytundeb cit mwyaf gwerthfawr yn ein hanes, ac mae’n adlewyrchu’r cynnydd y mae pêl-droed Cymru wedi’i wneud ar y cae ac oddi arno.

“Drwy weithio ochr yn ochr ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan drwy gydol y broses greadigol, sicrhawyd bod y dyluniad wedi’i wreiddio mewn treftadaeth Gymreig ddilys, gan ddod ag arbenigedd SUDU, CBDC ac un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru ynghyd. Y canlyniad yw crys sy’n adrodd stori wirioneddol Gymreig ac y gall cefnogwyr ei wisgo â balchder.

“Dim ond y dechrau yw’r cit cartref newydd. Gyda SUDU, mae gennym gyfres gyffrous o gynhyrchion a chasgliadau ar y gweill, gan roi mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen i gefnogwyr ddathlu eu cysylltiad â Chymru.

“Mae lansio Siop Cymru — Siop Swyddogol Pêl-droed Cymru — yn gam sylweddol arall ymlaen. Am y tro cyntaf, rydym wedi creu cartref penodol ar gyfer nwyddau swyddogol Cymru, gan wneud ein citiau a’n cynhyrchion yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen i’r Wal Goch.

“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i greu gyda’n gilydd. Mae’r crys hwn yn cynrychioli ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol, ac rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn ei wisgo â balchder ble bynnag y byddant yn dilyn Cymru.”

Dywedodd Vinny Clark, Prif Swyddog Gweithredol Levy Merchandising: “Mae ein tîm yn gwbl ymwybodol o’r cyfrifoldeb aruthrol sy’n gysylltiedig â chynrychioli cenedl, ac rydym wedi ymrwymo i roi anghenion y Gymdeithas, ei chwaraewyr a’i chefnogwyr uwchlaw popeth arall. 

“Ers blwyddyn, rydym wedi bod yn meithrin dealltwriaeth fanwl o ddiwylliant a threftadaeth pêl-droed Cymru, gan wrando ar ein cydweithwyr yn CBDC a dysgu ganddynt er mwyn creu cynhyrchion y gall cefnogwyr ymfalchïo ynddynt. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Craig, Rhian a grwpiau o chwaraewyr o’r timau dynion a menywod er mwyn sicrhau’r perfformiad technegol gorau posibl ar draws ein hystod.”