
Bydd Cymru yn wynebu Awstralia am y tro cyntaf ym mis Hydref, yn eu gêm gyntaf yn dilyn rowndiau terfynol UEFA EWRO Menywod 2025 yr haf hwn.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 25 Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r gic gyntaf am 2yp. Mae’r Matildas yn safle 15fed yn y byd ac yn cynnwys sawl enw mawr gan gynnwys Sam Kerr a Caitlin Foord sy’n chwarae yn y WSL yn Lloegr.
Dyma fydd gêm gyntaf Cymru ers rowndiau terfynol yr EWROs, sef ymddangosiad cyntaf erioed y tîm mewn twrnamaint mawr. Mae Rhian Wilkinson yn gobeithio y bydd y Wal Goch yn dod yn eu niferoedd i gefnogi ei thîm.
“Mae creu hanes drwy gyrraedd twrnamaint mawr am y tro cyntaf wedi bod yn brofiad anhygoel, a bydd y gêm yn erbyn Awstralia’n ffordd berffaith o ddathlu ein chwaraewyr hanesyddol, ond hefyd i edrych ymlaen at y dyfodol.”
“Wrth i ni edrych i ddatblygu ymhellach yn erbyn rhai o genhedloedd gorau’r byd, Awstralia yw’r gwrthwynebwyr perffaith i ni. Rwy’n gobeithio y bydd y Wal Goch, y cefnogwyr rheolaidd a’r cefnogwyr newydd, yn dod allan yn eu niferoedd ar gyfer yr achlysur arbennig yma ar brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.”
Bydd tocynnau’n mynd ar werth am 12pm dydd Llun 11 o Awst, gyda prisau gostwng gynnar yn dechrau o £3 (£2 aelodau’r Wal Goch) i blant a £8 i oedolion (£6 aelodau’r Wal Goch).