Cymru i wisgo Crys Penblwydd 150 yn erbyn Ghana

Fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd o Gymdeithas Bêl-Droed Cymru, bydd y tîm cenedlaethol yn gwisgo’r Crys Penblwydd 150 yn erbyn Ghana.

Cynhelir y gêm ar nos Fawrth 2 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd (KO 7:45pm) a bydd y gêm yn ddathliad ar gyfer 150 mlynedd o GBDC. Yn ogystal â Chymru’n gwisgo’r crys unigryw, mae cyn-chwaraewyr wedi cael eu gwahodd i gêm ac i gymryd rhan mewn dathliad arbennig.

Gan ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu CBDC ar 2 Chwefror 1876, mae’r crys Adidas yn talu teyrnged i’r crysau eiconig sydd wedi bod yn rhan o hanes pêl-droed Cymru dros y canrif ac hanner. Gyda dyluniad clasurol coch a gwyn, mae’r crys yn adlewyrchu’r lliwiau bythol sy’n gysylltiadol â Chymru, gan anrhydeddu’r gorffennol tra’n sefyll yn falch yn y presennol.

Mae’r Crys Penblwydd ar gael i’w brynu mewn siopau ac ar-lein trwy JD.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm erbyn Ghana ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC.

Archebwch Eich Tocynnau

Cymru v Ghana

Dydd Mawrth 2 Mehefin
Stadiwm Dinas Caerdydd

Archebwch Yma

Crys Penblwydd 150

Ar gael trwy JD