Cymru i wynebu Ghana mewn gêm hanesyddol

Bydd Cymru yn wynebu Ghana am y tro cyntaf erioed mewn gêm ryngwladol dynion yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 2 Mehefin (amser cic gyntaf i’w gadarnhau).

Bydd y gêm yn nodi’r tro cyntaf i wlad o Affrica chwarae yng Nghymru, lle bydd tîm Craig Bellamy yn wynebu tîm cryf o Ghana sydd yn cynnwys Antoine Semenyo, Iñaki Williams a Mohammed Kudus. Mae’r Sêr Ddu eisoes wedi cadarnhau eu lle yng Nghwpan y Byd FIFA yr haf hwn, lle byddant yn wynebu Lloegr, Croatia a Panama yn ei grŵp.

Y tro diwethaf, a’r unig dro, i Gymru chwarae yn erbyn gwlad o Affrica yng ngêm y dynion oedd ym Mehefin 1998 yn erbyn Tunisia, gêm a oedd yn cynnwys y Prif Hyfforddwr presennol, Craig Bellamy.

Bydd lle Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yr haf hwn yng Ngogledd America yn dibynnu ar ganlyniad llwybr y gemau ail gyfle ym mis Mawrth. Bydd tîm Bellamy yn wynebu Bosnia a Herzegovina ar nos Iau 26 o Fawrth, ac os byddant yn enill, bydd Cymru wedyn yn wynebu’r Eidal neu Ogledd Iwerddon yn rownd derfynol ar nos Fawrth 31 Mawrth.

Bydd ail gêm ar gyfer ffenestr ryngwladol mis Mehefin (cyn pencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA) yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gêm yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.