
Bydd tîm Cymru Rhian Wilkinson yn wynebu Gweriniaeth Corea am y tro cyntaf erioed mewn gêm gyfeillgar ryngwladol pan fydd ei thîm yn teithio i Sbaen ar gyfer y ffenestr ryngwladol olaf o’r flwyddyn.
Mae Gweriniaeth Corea yn safle 21ain yn y byd ac wedi cymryd rhan mewn pedair Cwpan y Byd Menywod FIFA yn 2003, 2015, 2019 a 2023.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar ddydd Gwener 28 Tachwedd, gyda’r gic gyntaf am 19:00yp CET yng Nghanolfan Pêl-Droed Malaga, Sbaen. Bydd Cymru yn wynebu’r Swistir bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Jerez, Sbaen.
Bydd y gemau yn erbyn Gweriniaeth Corea a’r Swistir yn helpu paratoadau Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027, a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. Bydd Cymru, sydd yn Grŵp 1 o Gynghrair B, yn wynebu Czechia, Albania a Montenegro.
Bydd mynediad i’r gêm am ddim ar y diwrnod a fydd y gêm yn cael ei ddarlledu ar-lein gan BBC Cymru.