Cymru i wynebu Gwlad Pwyl yn Rodney Parade

Bydd tîm Cymru Rhian Wilkinson yn wynebu Gwlad Pwyl yng Nghasnewydd ym mis Hydref, a bydd hyn yn nodi dychweliad cyntaf y tîm i Rodney Parade o flaen torf ers 2019.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae ddydd Mawrth 28 Hydref, gyda’r gic gyntaf am 7:45yp. Mae Gwlad Pwyl yn safle 26 yn y byd ac roedd y ddau dîm yn rhan o’u twrnamaint mawr gyntaf erioed yr haf hwn yn rowndiau terfynol UEFA EWRO.

Gêm gyfartal 1-1 ym mis Mawrth 2016 oedd y tro diwethaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd mewn gêm gyfeillgar ryngwladol yn Paralimni. Helen Ward wnaeth sgorio i Gymru.

Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn Rodney Parade o flaen torf oedd ym mis Medi 2019 yn erbyn Gogledd Iwerddon yn rowndiau rhagbrofol EURO Menywod 2021. Mae Cymru wedi chwarae yn Rodney Parade ers hynny, ond oherwydd pandemig COVID-19 cafodd y gemau hynny eu chwarae y tu ôl i ddrysau cau.

Dyma fydd ail gêm yn ystod y ffenestr ryngwladol mis Hydref, lle bydd tîm Rhian Wilkinson hefyd yn wynebu Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sadwrn 22 Hydref.

Bydd gwybodaeth tocynnau yn cael ei rhyddhau cyn bo hir.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.