Cymru i wynebu’r Swistir yn Sbaen

Bydd tîm Cymru Rhian Wilkinson yn teithio i Sbaen i wynebu’r Swistir mewn gêm gyfeillgar ryngwladol yn ystod y ffenestr ryngwladol olaf o’r flwyddyn.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth 2 Rhagfyr, gyda’r gic gyntaf am 11:00yb GMT / 12:00yp CET yn Stadiwm Chapín (Estadio Municipal de Chapín) yn Jerez de la Frontera, Sbaen. Mae’r Swistir wedi’u rhestru yn 24ain yn y byd, wyth lle uwchben Cymru sy’n 32ain ar hyn o bryd.

Cynhaliodd y Swistir UEFA EWRO Menywod am y tro cyntaf yn yr haf ac aethant ymlaen i’r rownd chwarter olaf o’r gystadleuaeth.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd oedd yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd ym mis Hydref 2022. Collodd Cymru 2-1, gyda Fabienne Humm yn sgorio’r gôl fuddugol i’r Swistir yn eiliadau olaf y gêm, er i Rhiannon Roberts roi Cymru ar y blaen yn gynharach.

Bydd y gêm hon yn helpu paratoadau Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027, a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. Bydd Cymru, sydd yn Grŵp 1 o Gynghrair B, yn wynebu Czechia, Albania a Montenegro.

Mae ail gêm yn cael ei threfnu ar gyfer nos Wener 28 Tachwedd, hefyd yn Sbaen. Bydd y gwrthwynebwyr a’r lleoliad yn cael eu cadarnhau cyn bo hir.

Bydd gwybodaeth tocynnau yn cael ei rhyddhau cyn bo hir.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.