Cymru’n Amddiffyn Coedwigoedd y Byd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi ymuno â’r elusen hinsawdd Maint Cymru i ddechrau cydweithio i gefnogi menywod Brodorol sy’n gweithio i warchod coedwigoedd trofannol ac i ddod yn sefydliad fydd yn hyrwyddo’r ymgyrch #dimdatgoedwigo.

Lawnsiwyd yr ymgyrch mewn sesiwn ar y cyd yng ngwersyll Tîm Merched Cymru cyn eu gêm yn erbyn Tsiecia. Yn ystod y sesiwn, dysgodd y chwaraewyr a’r staff fwy am rôl hanfodol coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd byd-eang. Rhannwyd sut mae Pobl Frodorol yn arwain o ran diogelu rhai o ecosystemau mwyaf bioamrywiol y byd, a pha gamau y gallant eu cymryd fel sefydliad i ddod yn hyrwyddwyr di-ddatgoedwigo.

Mae Maint Cymru yn gweithio mewn partneriaeth hirdymor â Phobl Frodorol a chymunedau lleol i warchod coedwigoedd trofannol maint Cymru. Mae’r elusen hefyd yn codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o sut y gall prynu a chaffael yng Nghymru achosi datgoedwigo trofannol filoedd o filltiroedd i ffwrdd, ac yn dangos sut y gellir osgoi hyn.

Mae coedwigoedd trofannol yn hanfodol i’r ymdrechion i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C. Datgoedwigo sy’n cyfrif am tua 20% o allyriadau byd-eang; sy’n llawer mwy na ehediadau awyrennau (sy’n cyfrif am oddeutu 2%). Yn 2024 yn unig, collwyd 67 miliwn hectar o goedwigoedd trofannol, sef tair gwaith maint Cymru. Mae hynny’n cyfateb i tua 18 cae pêl-droed o goedwig yn cael eu colli yn ystod un gêm bêl-droed 90 munud gan Gymru.

Drwy’r cydweithio hwn, bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Maint Cymru yn archwilio cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o effeithiau datgoedwigo trofannol a chefnogi camau i leihau ôl-troed amgylcheddol byd-eang Cymru, yn unol ag ymrwymiadau cynaliadwyedd y Cymdeithas Bêl-droed Cymru i hyrwyddo Cymru Leol Fyd-eang a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Dywedodd Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru: “Roedd hi’n wych ymuno â Thîm Cenedlaethol Merched Cymru yn ystod eu Gwersyll Gwanwyn yr wythnos hon i rannu mwy am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym yn falch iawn o gydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i weld sut y gall pêl-droed Cymru chwarae rhan wrth gefnogi menywod Brodorol sy’n gweithio i warchod coedwigoedd trofannol, a sut y gall y gêm ddefnyddio ei llwyfan, ei llais a’i chyrhaeddiad i ysbrydoli gweithredu ledled y wlad.”

Ychwanegodd Helen Antoniazzi, Pennaeth Materion Allanol a Chynaliadwyedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i ddeall a lleihau ein heffaith amgylcheddol. Mae gweithio gyda Maint Cymru yn cynnig cyfle ystyrlon i ddysgu gan ac i gefnogi’r rhai sy’n diogelu rhai o ecosystemau pwysicaf y byd, ac i weithredu i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei brynu ddim yn cyfrannu at ddatgoedwigo trofannol ymhell i ffwrdd.”

Dywedodd chwaraewraig ganol cae Cymru, Hayley Ladd: “Roedd hi’n ddiddorol iawn dysgu mwy am sut mae datgoedwigo trofannol yn gysylltiedig â chynhyrchion bob dydd a’r effaith fyd-eang y mae’n ei chael. Fel chwaraewyr, rydym eisiau deall yn well y rôl y gallwn ei chwarae wrth gefnogi newid cadarnhaol, ar y cae ac oddi ar y cae.”

Ers 2021, mae Maint Cymru wedi arwain yr ymgyrch i Gymru ddod yn genedl di-ddatgoedwigo, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, busnesau, ysgolion, ffermwyr a grwpiau cymunedol i leihau ôl-troed datgoedwigo tramor Cymru. Mae’r cydweithio hwn â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnig cyfle i ymgysylltu â staff, chwaraewyr a’r gymuned bêl-droed ehangach yng Nghymru i ddeall pwysigrwydd coedwigoedd trofannol a gweithredu i’w gwarchod.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.