
Bydd Cwpan Gary Speed, twrnamaint gwahodd newydd i dimau bechgyn D16, yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru y mis hwn, gan anrhydeddu un o ffigurau pêl-droed mwyaf Cymru.
Bydd y twrnamaint yn cyfle unigryw i chwaraewyr ifanc cael brofi pêl-droed rhyngwladol mewn awyrgylch cystadleuol a datblygiadol. Mae’n fwy na sioe o dalent newydd; mae’n ddathliad o’r gwerthoedd yr oedd Gary Speed yn sefyll drostynt: arweinyddiaeth, ymroddiad, a balchder wrth wisgo’r crys.
Bydd Japan, Gogledd Iwerddon a Gibraltar yn cymryd rhan gyda Cymru yn y gystadleuaeth eleni, gyda’r gemau’n cael eu cynnal yn Ruthin, Bwcle a Bae Colwyn. Bydd y gemau’n cael eu chwarae rhwng 26–31 Awst.
Bydd carfan Cymru yn cael ei rheoli gan Adrian Harvie ac yn cynnwys 22 o chwaraewyr sydd yn rhan o timau academi ledled y Deyrnas Unedig.
Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr David Adams:
“Rydyn ni’n falch iawn o lansio twrnamaint Cwpan Gary Speed eleni, gan anrhydeddu etifeddiaeth barhaol Gary a’i effaith ddyfn ar bêl-droed Cymru. Gobeithiwn y bydd y twrnamaint yn lwyfan da i’n talent y dyfodol gystadlu a datblygu ar y llwyfan rhyngwladol, gan gofio ymrwymiad Gary i newid dyfodol y gêm yng Nghymru.”
Bydd tocynnau ar gyfer pob gêm ar werth yn y lleoliadau ar ddiwrnod y gêm — £3 oedolion a £1 plant.
Carfan D16 Cymru: Harry BARROW (Bradford City), Oscar HATTON (Stoke City), Tom ALCOCK (Stoke City), Fabian WILLIAMS (Aston Villa), Noah ANYADIKE (Cardiff City), Sonny PEYTON (Crewe Alexandra), Joe DEIGHTON (Manchester United), Ali TUCKER (Bristol City), Leo KELLEHER (Bristol Rovers), Hugo DANIEL (Cardiff City), Archie WALLS (Blackburn Rovers), Alffi HUGHES (Swansea City), Harrison BROWN (Brighton & Hove Albion), Ralphie BECKWITH (Millwall), Paul MORENO (Cardiff City), Gruffydd EVANS (Cardiff City), Axel DONCZEW (Cardiff City), Jayden SMYTH (Wrexham), Dembo JAITEH (Cardiff City), George WILLIAMS (Exeter City), Bobby LEWIS (Swansea City), George THOMAS (Aston Villa).
Calendr gemau
Dydd Mawrth 26 Awst
Gogledd Iwerddon v Gibraltar 11:00am Ruthin
Cymru v Japan 6:00pm Bae Colwyn
Dydd Iau 28 Awst
Japan v Gogledd Iwerddon 11:00am Ruthin
Cymru v Gibraltar 6:00pm Bwcle
Dydd Sul 31 Awst
Gibraltar v Japan 10:30am Ruthin
Cymru v Gogledd Iwerddon 10:30am Bae Colwyn