
Mae nifer o gyn-chwaraewyr Cymru wedi’u cynnwys yn ‘Rhôl Anrhydedd’ Neuadd yr Enwogion Chwaraeon Cymru, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi cael ei hanrhydeddu ar achlysur ei phen-blwydd 150 oed.
Mae chwech o chwaraewyr tîm Cymru a gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth UEFA EURO 1976 wedi cael ei anrhydeddu. Cafodd Dai Davies, Leighton James a Joey Jones eu hanrhydeddu ar ôl eu marwolaeth, tra oedd Brian Flynn, Alan Curtis a Mickey Thomas yn bresennol yn y Gwesty Parkgate yng Nghaerdydd i dderbyn eu gwobrau.
Hefyd ar y rhestr oedd Jess Fishlock, y chwaraewr â’r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru ac y cyntaf i gyrraedd 100 o gapiau, a Nia Jones, a gynrychiolodd Gymru mewn pêl-droed a phêl-rhwyd.
Mewn noson emosiynol a oedd hefyd yn dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, cafodd dau enw arall o fyd pêl-droed eu hychwanegu at y ‘Rhôl Anrhydedd’.
Cafodd Mervyn ‘Sandy’ Griffiths o Abertyleri ei gynnwys ar ôl ei farwolaeth, i gydnabod ei gyflawniadau fel dyfarnwr mewn tair Cwpan y Byd FIFA , yn ogystal â dyfarnu rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. Ychwanegwyd hefyd cyn-chwaraewr Cymru a’r cyn-brif hyfforddwr Chris Coleman, degawd ar ôl iddo arwain ei wlad i rownd gyn-derfynol UEFA EURO 2016 yn Ffrainc.
Derbyniodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Diwylliant CBDC, wobr ‘Gwobr Cyfryngau Chwaraeon Cymru Peter Corrigan’. Ymunodd Ian â’r CBD yn 2011, a cyn hynny roedd wedi gweithio fel darlledwr i’r BBC ac yn sylwebydd ar ‘Match of the Day’.
Cyflwynwyd gwobr olaf y noson gan Lywydd Neuadd yr Enwogion Chwaraeon Cymru i Mike Jones, Llywydd CBDC. Cyflwynwyd y ‘Rhodri’, a enwyd ar ôl Rhodri Morgan, y cyn-Brif Weinidog a fu’n gadeirydd Neuadd yr Enwogion, i GBDC i gydnabod ei chyfraniad eithriadol i chwaraeon Cymru.
Dai Davies (1948–2021)
- Safle: Gôl-geidwad
- Capiau dros Gymru: 52 (1975–1982)
- Prif glybiau: Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere Rovers, Dinas Bangor
Ganwyd William David Davies yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin. Hyfforddodd yn wreiddiol i fod yn athro addysg gorfforol cyn ymrwymo’n llawn i bêl-droed proffesiynol. Roedd Davies yn gôl-geidwad athletaidd ac awdurdodol, a daeth i amlygrwydd yn nhîm Abertawe cyn i Everton, a oedd yn bencampwyr ar y pryd, ei arwyddo yn 1970 am £40,000. Treuliodd saith mlynedd yn Goodison Park, gan gystadlu â Gordon West a Bob Latchford, cyn symud i Wrecsam yn 1977.
Yn y Cae Ras, mwynhaodd Davies gyfnod gorau ei yrfa ar lefel clwb. Chwaraeodd ran allweddol yn nhîm enwog John Neal, a enillodd bencampwriaeth y Drydedd Adran ac a gyrhaeddodd rowndiau wyth olaf y ddau gwpan domestig yn nhymor 1977–78. Dychwelodd yn ddiweddarach i Abertawe dan arweiniad John Toshack i chwarae yn yr Adran Gyntaf.
Enillodd Davies 52 o gapiau dros Gymru, gan dorri record Jack Kelsey am y nifer fwyaf o gapiau gan gôl-geidwad dros y wlad. Ef oedd prif gôl-geidwad diamheuol Cymru drwy gydol ail hanner y 1970au, cyn trosglwyddo’r crys i Neville Southall. Roedd Davies yn siaradwr Cymraeg rhugl a daeth yn ddarlledwr uchel ei barch i S4C a BBC Radio Cymru. Cafodd ei urddo’n aelod o Orsedd y Beirdd. Bu farw ym mis Chwefror 2021, yn 72 oed.
Leighton James (1953–2024)
- Safle: Asgellwr / Asgellwr chwith
- Capiau dros Gymru: 54 (10 gôl, 1971–1983)
- Prif glybiau: Burnley, Derby County, Queens Park Rangers, Abertawe, Sunderland
Yn wreiddiol o Lwchwr, ger Abertawe, roedd Leighton James yn un o asgellwyr mwyaf ffrwydrol, uniongyrchol a medrus ei genhedlaeth. Ymunodd â Burnley yn ei arddegau a daeth yn arwr yn Turf Moor, gan sgorio 81 o goliau yn ystod ei dri chyfnod gyda’r clwb a helpu’r Clarets i ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf yn 1973. Yn 1975, gwnaeth Derby County ei arwyddo am ffi record i’r clwb, sef £310,000.
Yn 1980, daeth John Toshack ag James i Abertawe, lle bu ei ddawn a’i allu i groesi’r bêl yn allweddol wrth i’r Elyrch godi o’r Drydedd Adran i’r Adran Gyntaf am y tro cyntaf yn hanes y clwb. Ar y llwyfan rhyngwladol, chwaraeodd James 54 o weithiau dros Gymru.
Daeth ei foment fwyaf cofiadwy ar 31 Mai 1977 yn Wembley, pan sgoriodd gic gosb i sicrhau buddugoliaeth enwog o 1–0 yn erbyn Lloegr. Hon oedd unig fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yn Wembley. Ar ôl ymddeol, bu’n rheoli nifer o glybiau y tu allan i’r gynghrair ac yn arbenigwr pêl-droed poblogaidd a di-flewyn-ar-dafod ar BBC Radio Wales tan ei farwolaeth ym mis Ebrill 2024.
Joey Jones (1955–2025)
- Safle: Cefnwr chwith
- Capiau dros Gymru: 72 (1 gôl, 1975–1986)
- Prif glybiau: Wrecsam, Lerpwl, Chelsea, Huddersfield Town
Ganwyd Joey Jones yn Llandudno. Mae’n un o ffigurau mwyaf carismatig ac uchel eu parch yn hanes pêl-droed Cymru, ac yn adnabyddus am ei daclo di-ildio, ei gyfarchion â’i ddwrn wedi’i gau a’i ymrwymiad diwyro. Dechreuodd Jones ei yrfa yn Wrecsam, gan serennu yn eu hymgyrch i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr yn 1974. Sylwodd Bob Paisley ar ei ysbryd cystadleuol a’i arwyddo i Liverpool yn 1975.
Yn Anfield, daeth Jones yn arwr ar unwaith. Yn 1977, enillodd deitl yr Adran Gyntaf a daeth y Cymro cyntaf i ennill Cwpan Ewrop, wrth i Liverpool drechu Borussia Mönchengladbach yn Rhufain. Datgelodd cefnogwyr y Kop faner a ddaeth yn eiconig: “Joey ate the frogs legs, made the Swiss roll, now he’s munching Gladbach.”
Dychwelodd Jones i Wrecsam yn 1978, cyn helpu Chelsea i ennill teitl yr Ail Adran yn 1984, ac yna gorffen ei yrfa fel chwaraewr yn ôl yn y Cae Ras. Yn ystod gyrfa ryngwladol a barodd 11 mlynedd, enillodd Jones 72 o gapiau dros Gymru. Treuliodd ddegawdau’n hyfforddi timau ieuenctid Wrecsam ac mae’n parhau i fod yn eicon parhaol yn y Cae Ras ac yn Anfield.
Mickey Thomas (ganwyd 1954)
- Safle: Asgellwr / Canol cae
- Capiau dros Gymru: 51 (4 gôl, 1976–1986)
- Prif glybiau: Wrecsam, Manchester United, Everton, Brighton, Stoke City, Chelsea, Leeds United
Wedi’i fagu ym Mochdre, Conwy, roedd Michael Reginald Thomas yn chwaraewr deinamig ar yr ochr chwith, gyda chyflymiad eithriadol, sgil dechnegol a brwdfrydedd heintus. Fel Joey Jones, daeth Thomas drwy system ieuenctid Wrecsam i serennu yn oes aur y clwb yn y 1970au, gan helpu’r tîm i ennill dyrchafiad i’r Ail Adran a chyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.
Yn 1978, talodd Dave Sexton £330,000 i ddod ag ef i Manchester United. Chwaraeodd Thomas 110 o weithiau i’r clwb gan cynnwys chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 1979. Aeth ymlaen i chwarae i nifer o glybiau, gan gynnwys Everton, Brighton, Stoke City a Chelsea, gan helpu Chelsea i ennill dyrchafiad yn 1984.
Yn 1991, dychwelodd i Wrecsam yn 37 oed a chreu un o fomentau enwocaf hanes Cwpan FA Lloegr. Ym mis Ionawr 1992, sgoriodd gic rydd o 25 llath, gan helpu Wrecsam i drechu Arsenal, pencampwyr Lloegr ar y pryd, o 2–1 mewn canlyniad hanesyddol. Enillodd Thomas 51 o gapiau dros Gymru ac yn ddiweddarach daeth yn ddadansoddwr a darlledwr radio poblogaidd.
Alan Curtis (ganwyd 1954)
- Safle: Ymosodwr / Chwaraewr canol cae ymosodol
- Capiau dros Gymru: 35 (6 gôl, 1976–1987)
- Prif glybiau: Abertawe, Leeds United, Southampton, Stoke City, Caerdydd
Ganwyd Alan Curtis ym Mhentre yn y Rhondda, ac mae ei enw’n gyfystyr ag Abertawe. Mae wedi cynrychioli’r clwb dros chwe degawd fel chwaraewr, hyfforddwr, rheolwr dros dro a llywydd anrhydeddus y clwb. Roedd Curtis yn ymosodwr, gyda gweledigaeth a chydbwysedd eithriadol. Ymunodd ag Abertawe yn 1972 a daeth yn ffigwr allweddol yn nhîm John Toshack, gan sgorio’n gyson wrth i’r Elyrch godi o’r Bedwaredd Adran i’r Adran Gyntaf mewn pedwar tymor.
Symudodd i Leeds United am £400,000 yn 1979 cyn dychwelyd i’r Cae Vetch. Sgoriodd gôl unigol enwog ar ddiwrnod agoriadol y tymor yn erbyn Leeds, yn y gêm gyntaf erioed i Abertawe yn yr adran uchaf, ym mis Awst 1981. Chwaraeodd hefyd i Southampton, Stoke City a Chaerdydd.
Enillodd Curtis 35 o gapiau dros Gymru a sgoriodd chwe gôl, gan gynnwys goliau yn erbyn Lloegr a’r Alban. Yn ddiweddarach yn ei yrfa, bu’n hyfforddwr ac yn rheolwr dros dro yn ystod cyfnod Abertawe yn yr Uwch Gynghrair, gan arwain y clwb drwy nifer o gyfnodau o newid. Cafodd ei wobrwyo gyda MBE yn 2021 am ei wasanaethau i bêl-droed Cymru.
Brian Flynn (ganwyd 1955)
- Safle: Canol cae
- Capiau dros Gymru: 66 (7 gôl, 1975–1984)
- Prif glybiau: Burnley, Leeds United, Sunderland, Caerdydd, Doncaster Rovers, Wrecsam
Er ei fod ond yn 5 troedfedd 4 modfedd o daldra, roedd Brian Flynn, a anwyd ym Mhort Talbot, yn chwaraewr canol cae dygn a deallus, a oedd yn rheoli tempo’r gêm ac yn darllen y chwarae gyda dealltwriaeth dactegol eithriadol. Ymunodd â Burnley fel prentis, gan dorri i mewn i dîm yr Adran Gyntaf ochr yn ochr â Leighton James, a daeth yn gapten y clwb cyn cyrraedd ei ugeiniau cynnar. Treuliodd bum mlynedd yn Leeds United wedyn, cyn cyfnodau yn Sunderland ac yn ôl yn Burnley.
Enillodd Flynn 66 o gapiau dros Gymru yn ystod gyrfa ryngwladol naw mlynedd. Chwaraeodd ran amlwg yn ymgyrchoedd Pencampwriaeth y Cartref a gemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop dan arweiniad Mike Smith. Fodd bynnag, tyfodd ei gyfraniad i bêl-droed Cymru ymhellach fyth ar ôl iddo roi’r gorau i chwarae.
Fel rheolwr Wrecsam rhwng 1989 a 2001, arweiniodd y clwb drwy fuddugoliaethau enwog yn erbyn timau mawr yng Nghwpan FA Lloegr, gan gynnwys y fuddugoliaeth dros Arsenal yn 1992, ac enillodd ddyrchafiad i’r Ail Adran. Yna, achubodd Abertawe rhag disgyn allan o’r Gynghrair Bêl-droed yn 2003.
Yn ddiweddarach, fel rheolwr tîm dan-21 Cymru, bu Flynn yn chwilio am dalent ac yn datblygu’r genhedlaeth a ddaeth yn adnabyddus fel ‘Cenhedlaeth Aur’ fodern Cymru. Bu’n meithrin talentau Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Chris Gunter a Wayne Hennessey drwy lwybr datblygu’r tîm cenedlaethol.
Jess Fishlock (ganwyd 1987)
- Safle: Chwaraewr canol cae ymosodol
- Capiau dros Gymru: 166 (48 gôl, 2006–2025)
- Prif glybiau: Caerdydd, AZ, Bristol City, Melbourne Victory, Seattle Reign, OL Lyon, FFC Frankfurt, Reading
Dechreuodd Jess Fishlock, sy’n hanu o Lanrhymni, ei gyrfa yng Nghlwb Merched Dinas Caerdydd dan arweiniad Michele Adams, Karen Jones a Laura McAllister. Mae ei gyrfa ar lefel clwb wedi mynd â hi i dimau mewn wyth gwlad wahanol, ac mae Fishlock wedi ennill teitlau cynghrair yn yr Iseldiroedd, Awstralia, UDA a Ffrainc. Enillodd hefyd Gynghrair Pencampwyr Menywod UEFA gyda Lyon yn 2019.
Enillodd ei chap cyntaf dros Cymru yn erbyn y Swistir yn 2006, pan oedd yn ei harddegau. Roedd byd pêl-droed merched yng Nghymru a thu hwnt yn gwbl wahanol i’r hyn ydyw heddiw. Dros y ddau ddegawd dilynol, mae Fishlock wedi gweld newid a chynnydd aruthrol ar y cae ac oddi arno, gan ddod y chwaraewr cyntaf i gyrraedd 100 o gapiau dros Gymru tra’n hefyd yn dod yn sgoriwr goliau mwyaf y tîm.
Cynrychiolodd Fishlock Gymru 166 o weithiau, gan orffen ei gyrfa gyda’r tîm cenedlaethol yn cyrraedd ei pencampwriaeth rhyngwladol gyntaf, sef rowndiau terfynol UEFA EURO 2025 yr haf diwethaf.
Nia Jones (ganwyd 1992)
- Safle: Amddiffynnwr
- Capiau dros Gymru: 28 (1 gôl, 2010–2016)
- Prif glybiau: Cardiff City Ladies, Reading, Yeovil Town, Abertawe
Ganwyd Nia Jones yn Wrecsam a dechreuodd ei thaith pêl-droed yn chwarae i Northop Hall Girls cyn cynrychioli Cymru ar lefelau grwpiau oedran. Gwnaeth Jones ei hymddangosiad cyntaf dros y tîm rhyngwladol yn 18 oed, gan sgorio mewn buddugoliaeth o 8–1 yn erbyn Bwlgaria.
Symudodd i’r de i ymuno â Chlwb Merched Dinas Caerdydd, lle chwaraeodd ochr yn ochr â’i chyd-anrhydeddai Jess Fishlock, ac yn ddiweddarach chwaraeodd i Reading yn Uwch Gynghrair Merched Lloegr. Mae Jones wedi cynrychioli Cymru mewn dwy gamp, gan chwarae pêl-rwyd ar lefel ryngwladol yn ogystal â phêl-droed, ac mae hefyd wedi bod yn gapten ar ei gwlad mewn pêl-rwyd. Wnaeth Jones cynrychiolo Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014 a 2018 a bu hefyd yn gapten ar y ‘Welsh Feathers’ yng Nghwpan y Byd Pêl-rwyd 2023 yn Ne Affrica.
Ers rhoi’r gorau i chwarae, mae Jones wedi dod yn sylwebydd poblogaidd ar bêl-droed a phêl-rwyd. Mae’n ddarlledwr cyson ar raglenni’r BBC sy’n ymwneud â thimau cenedlaethol Cymru, ac roedd yn rhan o’r timau darlledu a fu’n gweitiho ar Chwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar a rowndiau terfynol UEFA EURO Menywod 2025 yn y Swistir.
Mervyn ‘Sandy’ Griffiths (1909–1974)
Yn wreiddiol o Abertyleri, roedd Mervyn ‘Sandy’ Griffiths yn ddyfarnwr pêl-droed o Gymru. Dechreuodd ei yrfa yn 1934, gan ddyfarnu mewn cynghreiriau lleol o amgylch Cynghrair Casnewydd a’r Cylch. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dyfarnodd Griffiths gêm Lloegr yn erbyn yr Alban yn 1949 a rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 1953, a elwir hefyd yn Rownd Derfynol Matthews.
Bu Griffiths yn dyfarnu yng Nghwpanau’r Byd FIFA yn 1950, 1954 a 1958, gan gynnwys gwasanaethu fel dyfarnwr cynorthwyol yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1954. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dyfarnodd hefyd nifer o rowndiau terfynol Cwpan Cymru.
Chris Coleman (ganwyd 1970)
- Safle: Amddiffynnwr
- Capiau dros Gymru: 32 (4 gôl, 1992–2002)
- Prif glybiau fel chwaraewr: Abertawe, Crystal Palace, Blackburn Rovers, Fulham
Fel chwaraewr, gwnaeth Coleman ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf dros ei glwb cartref, Abertawe, yn 1987. Gwnaeth bron i 200 o ymddangosiadau i’r clwb ac enillodd Gwpan Cymru yn 1989 a 1991. Yna, ymunodd Coleman â Crystal Palace yn yr Uwch Gynghrair cyn symud i Blackburn Rovers, pencampwyr yr Uwch Gynghrair ar y pryd, yn 1995. Daeth ei yrfa fel chwaraewr i ben yn Fulham.
Gwnaeth Coleman ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 1992, gan chwarae ochr yn ochr â Gary Speed, Rob Page, Ryan Giggs a Craig Bellamy, a fyddai gyd yn mynd ymlaen i reoli eu gwlad hefyd.
Penodwyd Coleman yn brif hyfforddwr Cymru yn 2012 yn dilyn marwolaeth drist ei ffrind a’i gyn-gyd-chwaraewr, Gary Speed. Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, gwnaeth Cymru hanes drwy gyrraedd rownd gynderfynol UEFA EURO 2016. Hwn oedd ymddangosiad gorau Cymru mewn pencampwriaeth rhyngwladol hyd yma.