
Mae Jess Fishlock wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl gêm Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn 25 Hydref (Cic gychwyn 2yp). Fishlock yw’r chwaraewr efo’r mwyaf o gapiau a goliau i dîm Cymru.
Mae Jess Fishlock wedi rhyddhau’r datganiad isod.
Ar ôl pedair ar bymtheg o flynyddoedd ar y daith fwyaf anhygoel o gynrychioli fy ngwlad gyda balchder, rwyf wedi gwneud y penderfyniad taw’r gêm yn erbyn Awstralia fydd fy ngêm olaf yng nghrys coch Cymru.
O gicio fy mhel cyntaf gyda’m brodyr yn Lanrhymni, mae pêl-droed wedi bod yn fy ngwaed. Pan chwaraeais fy nghêm gyntaf yn erbyn y Swistir yn Kloten yn 2006, ni fyddwn erioed wedi dychmygu y byddwn yn cael yr anrhydedd o gynrychioli Cymru fwy na 150 o weithiau. Roedd pob munud yn bleser, yn fraint, ac yn anrhydedd.
Yr Ewros roedd uchafbwynt fy ngyrfa bêl-droed — bydd gweld y ddraig ar y llwyfan byd-eang am y tro cyntaf yn atgof a fydd yn aros gyda mi am oes.
I’r holl chwaraewyr a’r staff, o’r gorffennol a’r presennol — diolch. Mae wedi bod yn daith anhygoel. Mae’r tîm bob amser wedi teimlo fel teulu, ac ar ôl yr holl adegau da a drwg, fe wnaethom o’r diwedd gyflawni’r hyn a freuddwydion ni. Mae’r saith ferch ddoeth bellach nawr yn bump.
I’m ffrindiau a’m teulu — rwy’n eich caru chi i gyd. Heb y gefnogaeth rydych chi i gyd wedi’i dangos, hebddoch chi byddai bydd wedi mynd drwy’r adegau anodd, a ni fyddwn byth wedi cyflawni’r hyn a wnes i.
I’m Mam — mae dy chariad a’i harweiniad wedi caniatau i cyrraedd fy mhreuddwydion. Rwyt ti wedi credu ynddo fi cyn i mi gredu ynddo fy hun.
I’m gwraig Tziarra — diolch am ddysgu am ein gwlad brydferth ac am fy nghefnogi fi a ninnau bob amser. Diolch.
Mae’r daith y mae pêl-droed menywod yng Nghymru wedi’i chymryd wedi bod yn anhygoel, a bydd y gêm m’ond yn cario ymlaen i dyfu. Rwy’n gweld cymaint o ferched ifanc yn chwarae pêl-droed ledled Cymru erbyn hyn, ac mae’r dyfodol yn ddisglair i’n gwlad.
I bawb sy’n rhan o dyfu’r gêm ar y lefelau lawr gwlad ac elît yng Nghymru, mae’n hollbwysig bod y gefnogaeth yn parhau, ac na gallwn ni sefyll yn llonydd am eiliad. Dim ond gyda’n gilydd y gallwn ni gyflawni llwyddiant.
Bydd dyfodol y crys rhif 10 mewn lle gwell nag oedd hi yn 2006, ac honno yw fy nghyflawniad mwyaf oll.
Ni allaf aros i weld beth fydd sêr y dyfodol ein Tîm Cenedlaethol yn gwneud. Gobeithiaf y byddwch i gyd yn eu cefnogi nhw fel y gwnaethoch chi fy nghefnogi i, ac ni allaf aros i ymuno â chi i gyd yn y gemau ac i roi ein cefnogaeth i’r tîm fel rydych chi bob amser yn ei wneud.
Diolch am bopeth, diolch i’m gwlad.
Cymru v Awstralia
2pm dydd Sadwrn 25 Hydref
Stadiwm Dinas Caerdydd