Yn 2024, lansiwyd cynllun gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), gyda chefnogaeth ARFOR, i fynd ag ysbryd dwyieithog y Wal Goch i galon rhai o gymunedau Cymru.
Rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd un ar ddeg o ddigwyddiadau yn siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, gan ddod â llawenydd y Wal Goch i gymunedau ar draws Gymru.
Roedd hybu’r iaith Gymraeg yn ganolog i bob digwyddiad. Un o’r elfennau etifeddiaeth a fydd yn para o’r prosiect yw fideos sydd wedi’u greu i hybu’r defnydd o derminoleg Gymraeg yn y byd pêl-droed. Wedi’u datblygu mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, mae’r fideos hyn yn cyflwyno termau pêl-droed allweddol i hyfforddwyr, cefnogwyr a chwaraewyr.
Mae CBDC yn annog pobl i wneud adduned Blwyddyn Newydd i ‘ddefnyddio ychydig o Gymraeg’. Aron Evans, tiwtor Cymraeg CBDC, sy’n cyflwyno’r fideos, sydd ar gael ar RedWall+ i’w defnyddio gan unrhyw unigolyn, clwb neu sefydliad.
Os taw parhau i ddysgu neu ymarfer eich Cymraeg yw eich adduned Blwyddyn Newydd, mae gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol nifer o gyrsiau ac adnoddau ar gael yma.