Mae Gwobrau Pêl-droed Llawr Gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a McDonald’s ar gyfer 2024 ar agor ar gyfer enwebiadau.
Mae Gwobrau Pêl-droed Llawr Gwlad FAW a McDonald’s yn dathlu gwaith caled yr arwyr di-glod ledled Cymru sy’n cysegru eu hamser i bêl-droed llawr gwlad.
Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu’r bobl sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o fewn ein cymunedau, gan ddangos gwir bŵer pêl-droed wrth gysylltu pobl ac ysbrydoli eraill, gan alluogi pobl i chwarae a mwynhau pêl-droed.
Dathlwch eu hymdrech, eu hymrwymiad a’u heffaith trwy eu henwebu ar gyfer un o’r deg categori isod:
- Clwb Cymunedol y Flwyddyn
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr ifanc y Flwyddyn
- Darparwr Pêl-droed Hwyl y Flwyddyn
- Dyfarnwr Llawr Gwlad y Flwyddyn
- Gwobr Enaid Pêl-droed llawr gwlad
- Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
- Gyda’n gilydd yn gryfach – Gwobr Gorau Chwarae Cyd Chwarae
I enwebu ewch i: FAW McDonald’s Grassroots Football Awards 2024
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch funfootball@faw.cymru