Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Llawr Gwlad CBDC McDonald’s 2024

Mae Gwobrau Pêl-droed Llawr Gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a McDonald’s ar gyfer 2024 ar agor ar gyfer enwebiadau.

Mae Gwobrau Pêl-droed Llawr Gwlad FAW a McDonald’s yn dathlu gwaith caled yr arwyr di-glod ledled Cymru sy’n cysegru eu hamser i bêl-droed llawr gwlad.

Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu’r bobl sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o fewn ein cymunedau, gan ddangos gwir bŵer pêl-droed wrth gysylltu pobl ac ysbrydoli eraill, gan alluogi pobl i chwarae a mwynhau pêl-droed.

Dathlwch eu hymdrech, eu hymrwymiad a’u heffaith trwy eu henwebu ar gyfer un o’r deg categori isod:

  • Clwb Cymunedol y Flwyddyn
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr ifanc y Flwyddyn
  • Darparwr Pêl-droed Hwyl y Flwyddyn
  • Dyfarnwr Llawr Gwlad y Flwyddyn
  • Gwobr Enaid Pêl-droed llawr gwlad
  • Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
  • Gyda’n gilydd yn gryfach – Gwobr Gorau Chwarae Cyd Chwarae 

I enwebu ewch i: FAW McDonald’s Grassroots Football Awards 2024

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch funfootball@faw.cymru