
Bydd tair stadiwm ar draws y gogledd yn cynnal gemau Rownd Elît UEFA D19 EWRO yn ystod ffenestr ryngwladol mis Mawrth, gyda phob un o gemau Cymru yn cael eu darlledu’n fyw gan S4C a Sgorio.
Bydd Stadiwm Dinas Bangor yn cynnal gêm agoriadol Cymru yn erbyn Lloegr am 7pm ar ddydd Mercher 19 Mawrth. Bydd tîm Chris Gunter yna yn teithio i’r Stadiwm Cymunedol yn Rhyl ar gyfer y ddwy gêm nesaf, lle byddant yn wynebu Portiwgal ar ddydd Sadwrn 22 Mawrth (KO 5pm) a Thwrci ar ddydd Mawrth 25 Mawrth (KO 7pm).
Bydd y gemau ar gael i’w gwylio ar S4C Clic, sianeli YouTube S4C a Sgorio a thudalen Facebook Sgorio. Bydd sylwebaeth yn Gymraeg a Saesneg ar bob gêm.
Bydd y tair gêm sydd ddim yn cynnwys Cymru yn cael eu chwarae yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy yn Cei Connah a byddant yn cael eu ffrydio’n fyw ar blatfform ffrydio CBDC, RedWall+.
Mae’n debygol y bydd sawl chwaraewr a fu’n rhan o Bencampwriaeth UEFA D17 EWRO 2023, y tro cyntaf i dîm oedran Cymru gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth dan oedran ers 1981, yn cael eu cynnwys yn y garfan D19.
Bydd y gemau hyn hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y paratoadau ar gyfer rowndiau terfynol UEFA U19 EWRO 2026, a fydd yn cael eu cynnal yng ngogledd Cymru fis Mehefin a Gorffennaf nesaf.
Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm D19 Cymru, Chris Gunter: “Bydd hwn yn brofiad gwych i’n chwaraewyr wrth iddynt chwarae ar y llwyfan hyn yn y rownd elît. Maent yn haeddu’r cyfle oherwydd y canlyniadau ym mis Tachwedd, ac hefyd y cyfle i chwarae o flaen ein cefnogwyr ein hunain. Mae gennym grŵp cyffrous o chwaraewyr sydd â’r nod o gynrychioli ein Tîm Cenedlaethol yn y blynyddoedd i ddod, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cefnogwyr y gogledd yn dod allan mewn niferoedd i’n cefnogi.”
Ychwanegodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Mae S4C yn falch iawn o gael rhoi sylw i’r Rownd Elît D19 sy’n cael ei chynnal yng ngogledd Cymru. Mae ein hymrwymiad yn dangos cefnogaeth barhaus S4C i bêl-droed Cymru ar draws pob lefel o’r gêm”.
Bydd y gwerthiant a ddosbarthiant o tocynnau yn cael eu rheoli gan Stadiwm Dinas Bangor a Belle Vue, Rhyl, gyda’r wybodaeth yn cael ei chadarnhau maes o law.
Gwybodaeth Gemau
- Portiwgal v Twrci – Stadiwm Deeside (Cei Connah) – Dydd Mercher 19 Mawrth (11am)
- Cymru v Lloegr – Stadiwm Dinas Bangor (Bangor) – Dydd Mercher 19 Mawrth (7pm)
- Portiwgal v Cymru – Stadiwm Cymunedol Hops & Barley (Rhyl) – Dydd Sadwrn 22 Mawrth (5pm)
- Lloegr v Twrci – Stadiwm Deeside (Cei Connah) – Dydd Sadwrn 22 Mawrth (11am)
- Lloegr v Portiwgal – Stadiwm Deeside (Cei Connah) – Dydd Mawrth 25 Mawrth (7pm)
- Twrci v Cymru – Stadiwm Cymunedol Hops & Barley (Rhyl) – Dydd Mawrth 25 Mawrth (7pm)