
Bydd holl gemau cartref Cymru ym Mhencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn yr hydref yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd ymgyrch tîm Craig Bellamy yng Nghynghrair A yn dechrau gyda bedair gêm yn olynol, gan ddechrau gyda dwy gêm oddi cartref yn erbyn Portiwgal (dydd Iau 24 Medi) a Denmarc (dydd Sul 27 Medi). Yna bydd dwy gêm gartref yn erbyn Norwy (dydd Iau 1 Hydref) a Denmarc (dydd Sul 4 Hydref).
Bydd lleoliad y gêm yn erbyn Portiwgal yn cael ei gadarnhau maes o law. Bydd y gêm oddi cartref yn erbyn Denmarc yn cael ei chynnal yn Stadiwm Parken yn Copenhagen, stadiwm sydd yn seddi 38,000 o bobl a gynhaliodd bedair gêm yn pencampwriaeth UEFA EURO 2020.
Bydd yr ymgyrch wedyn yn dod i ben oddi cartref yn erbyn Norwy yn Stadiwm Ullevaal yn Oslo (dydd Sadwrn 14 Tachwedd), cartref timau cenedlaethol Norwy, cyn y gêm olaf gartref yn erbyn Portiwgal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 17 Tachwedd.
Bydd gwybodaeth am tocynnau ar gyfer y gemau yn cael ei chyhoeddi maes o law.
Amserlen gemau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Nations League (amseroedd lleol)
- Portiwgal v Cymru – Dydd Iau 24 Medi 7:45pm – Lleoliad i’w gadarnhau
- Denmarc v Cymru – Dydd Sul 27 Medi 6:00pm – Stadiwm Parken, Copenhagen
- Cymru v Norwy – Dydd Iau 1 Hydref 7:45pm – Stadiwm Dinas Caerdydd
- Cymru v Denmarc – Dydd Sul 4 Hydref 7:45pm – Stadiwm Dinas Caerdydd
- Norwy v Cymru – Dydd Sadwrn 14 Tachwedd 6:00pm – Stadiwm Ullevaal, Oslo
- Cymru v Portiwgal – Dydd Mawrth 17 Tachwedd 7:45pm – Stadiwm Dinas Caerdydd