Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi dod y Gymdeithas Bêl-droed Genedlaethol gyntaf i ymuno â Common Goal, y mudiad pêl-droed byd-eang sy’n ysbrydoli cydweithrediad radical i drawsnewid cymunedau drwy bêl-droed.
Mae Datblygu Cynaliadwy yn egwyddor drefniadol ganolog sy’n llunio gweithgareddau CBDC. Cymru oedd y genedl gyntaf yn y byd i ddeddfu er lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i sicrhau’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Mae ymrwymiad CBDC i Common Goal nid yn unig yn gyntaf yn y byd, ond hefyd yn gam ymlaen i gyflymu ei hymrwymiad i bobl ledled y wlad. Fel sefydliad nid-er-elw, mae CBDC yn ail-fuddsoddi refeniw mewn pêl-droed er lles pobl, cymunedau a’r amgylchedd yng Nghymru.
Ym mis Mawrth, daeth Sefydliad Pêl-droed Cymru (CFF) yn aelod o gymuned rhwydwaith Common Goal. I gefnogi datblygiad cyfleusterau pêl-droed ysbrydoledig sy’n addas ar gyfer y dyfodol, mae CBDC yn buddsoddi hyd at 10% o’i refeniw i’r CFF i gyfoethogi cymunedau ledled Cymru ymhellach.
Mae CBDC yn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru ymhellach i gael mynediad at gyfleoedd ac offer pêl-droed trwy Gronfa PAWB, sydd wedi cefnogi 452 o unigolion, 392 o deuluoedd a 200 o glybiau a sefydliadau yn y ddwy flynedd ers ei chreu.
Y Bartneriaeth Common Goal yw’r cam nesaf ar gyfer gynyddu effaith CBDC ar bobl a chymunedau ledled Cymru. Bydd y ffederasiwn yn gweithio tuag at fewnosod a datgloi 1% pellach o refeniw ar gyfer pobl a chymunedau ledled Cymru. Bydd hyn yn dechrau gydag addewid i sicrhau bod 1% o werthiant tocynnau o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 CBDC yn cael ei ddychwelyd i brosiectau, rhaglenni a mentrau trwy’r CFF, Cronfa PAWB a/neu fentrau eraill o’r fath sy’n creu gwerth cymdeithasol ystyrlon i bobl a chymunedau ledled Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog Masnachol ac Ymgysylltu CBDC, Sharon Tuff: “Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o’n henw da cynyddol fel arweinydd yn y maes cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol pêl-droed rhyngwladol. Rydym am roi’r dewis i gefnogwyr ein Timoedd Cenedlaethol Cymru – sef Y Wal Goch – dros ble mae’r addewid ariannu hwn yn mynd fel y gallant weld eu heffaith o gefnogi’r timau cenedlaethol yn eu cymunedau eu hunain.
“Mae hefyd yn fwriad gan CBDC i weithio tuag at ddatgloi’r cyfraniad o 1% gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid, gan arloesi ar draws ffrydiau refeniw masnachol eraill wrth i’r ffederasiwn ymdrechu i lunio dyfodol gwell i Gymru gartref ac ar Lwyfan y Byd drwy bêl-droed.”
Dywedodd Rhian Wilkinson, Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru: “Mae cymaint o angerdd am y gêm yng Nghymru ac rydym yn adeiladu momentwm gwych yn nhîm y menywod wrth i ni ddod yn agosach at gyrraedd yr Ewros.
“Mae’r ffaith bod ein hymrwymiad i ragoriaeth ar y maes chwarae yn cael ei adlewyrchu gan ein nod i fod y gorau y gallwn fod oddi ar y cae sy’n gwneud pêl-droed Cymru’n unigryw ac mae hyn yn ein hysbrydoli ac yn ein huno ni i gyd – staff hyfforddi, chwaraewyr a chefnogwyr fel ei gilydd.”
Dywedodd Jürgen Griesbeck, Prif Swyddog Gweithredol Common Goal: “Mae’r hyn a ddechreuodd fel mudiad a arweiniwyd gan chwaraewyr yn 2017, bellach yn rhwydwaith o randdeiliaid amrywiol yn y diwydiant pêl-droed gan gynnwys clybiau, corfforaethau, arweinwyr diwydiant ac erbyn hyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y gymdeithas genedlaethol gyntaf i ymuno â’r mudiad.
“Mae Common Goal yn seiliedig ar sylfaen o arloesi a chydweithredu ac rydym wedi ein hysbrydoli gymaint gan GBDC am fod y gymdeithas gyntaf i gymryd y cam hwn. Rwy’n gobeithio y bydd cymdeithasau eraill a gydnabyddir gan FIFA yn cael eu hysbrydoli gan arweinyddiaeth CBDC ac yn ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i ryddhau potensial llawn pêl-droed fel grym ar gyfer newid cadarnhaol yn y byd.”