Yn arwain at ei gemau wrth y llyw efo tîm Cymru, mae Craig Bellamy wedi cwblhau ei dîm rheoli gan benodi Martyn Margetson fel Hyfforddwr Gôl-geidwaid.
Roedd Margetson yn flaenorol yn Hyfforddwr Gôl-geidwaid Cymru rhwng 2011-2016 o dan Gary Speed a Chris Coleman ac roedd yn rhan o ymgyrch UEFA EURO 2016 cyn ymuno â’r tîm cenedlaethol Lloegr. Yn ystod ei amser yn Lloegr, gan weithio dros gant o gemau, cyrhaeddodd Margetson ddwy rownd derfynol UEFA EURO a rownd gynderfynol Cwpan y Byd FIFA. Fel cyn chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, mae Margetson hefyd wedi gweithio yn West Ham, Caerdydd, Crystal Palace ac Everton cyn ei swydd bresennol fel Pennaeth Gôl-geidwaid gyda Abertawe.
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Margetson “Roedd bod yn hyfforddwr gôl-geidwaid Cymru ac yn rhan o’r garfan a gyrhaeddodd rownd gynderfynol UEFA EURO 2016 yn un o’r profiadau gorau o fy nghyrfa. Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda’r grŵp presennol o gôl-geidwaid a’r garfan ehangach, gan fy mod wedi gweithio gyda sawl un o’r chwaraewyr o’r blaen. Rwy’n gobeithio y gall fy mhrofiad helpu i ddod â llwyddiant i’r tîm.”
Mae penodiad Margetson yn cwblhau tîm rheoli Craig Bellamy yn dilyn ychwanegiadau Andrew Crofts, James Rowberry, Piet Cremers a Ryland Morgans yr wythnos diwethaf.
Wrth siarad am benodiad Margetson, dywedodd Bellamy “Pan edrychais ar y grŵp newydd o staff hyfforddi, mae llawer o brofiad o bêl-droed clwb lefel uchel ond nid o bêl-droed rhyngwladol, rhywbeth y mae Martyn gyda. Nid yw ei brofiad yn unig yn perthyn i bêl-droed rhyngwladol, ond i gyrraedd camau terfynol pêl-droed rhyngwladol. Bydd y profiad a’r wybodaeth honno’n fanteisiol iawn ac roedd ei gael yn rhan o’r tîm yn benderfyniad hawdd i’w wneud.”
Mae tocynnau ar gyfer gêm gyntaf Bellamy wrth y llyw o Gymru yn erbyn Türkiye yn Stadiwm Dinas Caerdydd (7:45pm Stadiwm Dinas Caerdydd) ar gael i’w prynu ar wefan docynnau FAW.
Cymru v Türkiye
6 Medi, Stadiwm Dinas Caerdydd