Mae mis Hydref yn nodi Mis Gweithredu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a hefyd Mis Hanes Pobl Dduon. Bydd Clybiau Pêl-droed ledled Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn dangos eu cefnogaeth i Fis Gweithredu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (SRtRC) drwy gydol y mis.
Mae’r Mis Gweithredu bob blwyddyn yn nodi pwynt allweddol yn y calendr pêl-droed lle mae addysg ac ymwybyddiaeth o hiliaeth o fewn y gêm yn cael eu hamlygu ymhellach. Mae CBDC a SRtRC yn cydnabod y gall chwaraeon gael eu defnyddio fel cyfrwng i gyflwyno negeseuon Gwrth-hiliaeth i gymunedau ledled Cymru, gan weithio tuag at Gymru sydd yn gwbl Wrth-hiliaeth erbyn 2030.
Mae’r Mis Gweithredu yn rhan o raglen ehangach a ariennir gan CBDC lle bydd Clybiau ledled y wlad yn cynnal gweithredoedd mewn gemau, gyda chwaraewyr o’r ddau dîm yn uno gyda’i gilydd i sefyll yn erbyn hiliaeth.
Yn ogystal â Chlybiau domestig a llawr gwlad yn dangos eu cefnogaeth ar ac oddi ar y cae, bydd Timau Cenedlaethol Cymru yn dangos y cerdyn coch i hiliaeth yn ystod eu gemau drwy gydol mis Hydref.
I glywed mwy am y gwaith parhaus y bydd y CBDC yn ei wneud gyda SRtRC, gwrandewch ar y bennod arbennig hon o bodlediad PAWB yma.
Dywedodd Jason Webber, Uwch Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynaliadwyedd y CBDC, “Trwy gydol y mis gweithredu a thu hwnt, bydd y CBDC yn parhau i weithio gyda SRtRC a Chymunedau Ethnig Amrywiol ledled Cymru i weithio tuag at amgylchedd mwy cynhwysol a chroesawgar mewn Pêl-droed, lle gall pawb, ym mhob rhan o Gymru deimlo eu bod yn perthyn ac yn cael cyfle cyfartal a theg i gymryd rhan yn y chwaraeon maen nhw’n ei charu.
“Yn CBDC rydym yn ymwybodol bod agweddau atgas a gwahaniaethol sy’n bodoli o fewn gymdeithasau yn anffodus yn ymestyn i bêl-droed. Mae CBDC yn cydnabod bod gennym ffordd bell i fynd i fod yn wirioneddol adlewyrchol o bob cymuned ledled Cymru, o fewn ein sefydliad ein hunain ac ar draws y gêm. Er bod CBDC wedi cymryd camau sylweddol wrth weithredu mesurau a rhaglenni addysgol newydd, rydym yn cydnabod bod dal llawer o waith i’w wneud cyn i hiliaeth gael ei ddileu’n llwyr o bêl-droed Cymru.”
Dysgwch fwy am rai o’r argymhellion a roddwyd i’r CBDC gan SRtRC yma: Adroddiad Hiliaeth mewn Pêl-droed Lawr Gwlad – Cymru – Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
Dysgwch fwy am Raglen Cymorth i Ddioddefwyr sydd newydd ei lansio gan CBDC yma: Rhaglen Cymorth i Ddioddefwyr – PAWB Cymru (faw.cymru)
Os ydych chi, aelod o’ch tîm, cydweithiwr neu wrthwynebydd yn cael eich targedu gan hiliaeth, peidiwch â’i anwybyddu, rhowch wybod i: ReportIt@faw.co.uk
Os ydych chi’n gweld neu’n clywed hiliaeth ar unrhyw lefel o bêl-droed, rhowch wybod i’r stiward agosaf neu Swyddog y Clwb. Gallwch hefyd riportio digwyddiad ar faw.cymru/report-it/ neu drwy e-bostio ReportIT@faw.co.uk
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Fis Gweithredu’r tymor hwn, dilynwch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ar gyfryngau cymdeithasol:
· Twitter: @theredcardwales
· Facebook: /theredcardwales
· YouTube: /redcardwales
· Instagram: theredcardwales