Parc y Scarlets i gynnal gêm ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Albania

Bydd Parc y Scarlets yn cynnal ail gymal gêm ail-gyfle Rownd Gyntaf Cymru ar gyfer cyrraedd Cwpan y Byd FIFA Menywod 2027 yn erbyn Albania ar nos Fawrth 13 Hydref (amser KO i’w gadarnhau).

Bydd Cymru yn dychwelyd i Lanelli yn dilyn perfformiad arbennig yno ym mis Mawrth yn erbyn Montenegro yn y rownd ragbrofol, lle wnaeth Hannah Cain a Mared Griffiths sgorio dwy gôl yr un, a wnaeth Sophie Ingle a Rachel Rowe hefyd cael gôl yr un.

Mae Rhian Wilkinson yn gobeithio gweld y cefnogwyr yn troi allan yn eu niferoedd unwaith eto ym mis Hydref. “Rwy’n mwynhau chwarae yn Llanelli yn fawr. Mae’r awyrgylch bob amser yn wych, a bydd Y Wal Goch yn chwarae rhan enfawr wrth helpu i ni groesi’r llinell derfyn yn beth fydd yn gêm anodd arall. Rwy’n gobeithio y gallwn, gyda’n gilydd, greu noson arbennig arall ym Mharc y Scarlets.”

Y Broses Ail Gyfle

Bydd Cymru yn wynebu Albania yn y Rownd ail-gyfle Rownd Gyntaf dros ddau gymal. Pe bai tîm Rhian Wilkinson yn symud ymlaen, byddent wedyn yn wynebu’r enillwyr rhwng Romania a Norwy mewn gêm ail gyfle Ail Rownd dros ddau gymal yn ystod ffenestr ryngwladol Tachwedd/Rhagfyr, gyda’r gêm gartref yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae esboniad o’r broses ar gael yma.

Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gêm yn Llanelli ar gael maes o law.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.