Rodney Parade yn cynnal rowndiau terfynol Cwpan Cymru CBDC a Cwpan Cymru Bute Energy 2027

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cadarnhau y bydd Rodney Parade yn cynnal Rownd Derfynol Cwpan Cymru CBDC a Rownd Derfynol Cwpan Cymru Bute Energy yn 2027.

Hon fydd y bedwaredd flwyddyn yn olynol i ddwy gystadleuaeth gwpan fwyaf mawreddog Cymru ddod i ben yng Nghasnewydd.

Bydd Rownd Derfynol Cwpan Cymru Bute Energy yn cael ei chynnal ar ddydd Sul 11 Ebrill (cic gyntaf am 17:00), cyn Rownd Derfynol Cwpan Cymru CBDC ar ddydd Sul 18 Ebrill (cic gyntaf am 14:35). Bydd y ddwy rownd derfynol yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C, a bydd manylion tocynnau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn dwy rownd derfynol gyffrous yn Rodney Parade y tymor diwethaf. Yn gyntaf, enillodd Caernarfon y Cwpan Cymru CBDC am y tro cyntaf yn hanes y clwb, gan drechu Y Fflint 3-0.

Y penwythnos canlynol, yn Rownd Derfynol Cwpan Cymru Bute Energy, roedd Caerdydd yn colli 3-0 yn erbyn eu cystadleuwyr, Abertawe, ond fe wnaethant codi o’r tu ôl i sicrhau gêm gyfartal 3-3 cyn ennill ar giciau o’r smotyn a chodi’r tlws am y pumed tymor yn olynol.

Mae’r daith i Rodney Parade eisoes ar y gweill, gyda Chwpan Cymru CBDC yn y Drydedd Rownd a Chwpan Cymru Bute Energy yn y Rownd Gyntaf.

Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig yr CBDC: “Mae Rodney Parade wedi sefydlu ei hun fel lleoliad rhagorol ar gyfer Rowndiau Terfynol Cwpan Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda phob tymor yn adeiladu ar lwyddiant y tymor blaenorol.

“Mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer cystadlaethau mor fawreddog â Chwpanau Cymru. Cawsom ddwy rownd derfynol wych y tymor diwethaf ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd ym mis Ebrill ar gyfer diweddglo cystadlaethau eleni.”

Gemau a chanlyniadau

Cwpan Cymru CBDC

Gemau a chanlyniadau

Cwpan Cymru Bute Energy