Mae cyfnod Rob Page fel prif hyfforddwr Cymru wedi dod i ben ar ôl canlyniadau siomedig ym mis Mehefin ac ar ôl methu cyrraedd pencampwriaeth EWRO 2024.
Cymro balch a brwdfrydig, ganwyd a magwyd Page yn y Rhondda a chwareodd 41 o weithiau i Gymru fel amddiffynwr rhwng 1996 a 2005. Disgrifiodd gapteinio’r tîm yn erbyn Hwngari ar ei 36fed cap ym mis Chwefror 2005 fel “uchafbwynt fy ngyrfa ryngwladol” wrth edrych yn ôl ar y fuddugoliaeth o 2-0 yng Nghaerdydd. Penodwyd Page yn rheolwr tîm D21 Cymru yn 2017, a symudodd i fyny i’r tîm cyntaf fel cynorthwyydd i Ryan Giggs ym mis Awst 2019.
Penodwyd Page fel rheolwr Cymru ar sail dros dro ym mis Tachwedd 2020. Dros y misoedd nesaf, arweiniodd Page ei garfan i ddyrchafiad yn Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac i bencampwriaeth UEFA EWRO 2020 lle aethant ymlaen o’r grŵp cyn colli yn y Rownd o 16 yn erbyn Denmarc. Gorffennodd yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, ac yna fe wnaeth Page a’i garfan sicrhau lle yng Nghatar gyda buddugoliaeth enwog yn y gemau ail-gyfle yn erbyn Awstria ac Wcráin.
Yn dilyn y fuddugoliaeth 1-0 yng Nghaerdydd, penodwyd Page fel rheolwr ar sail parhaol a llofnododd gytundeb pedair blynedd a fyddai’n cynnwys EWRO 2024 a Chwpan y Byd 2026. “Nid oes anrhydedd mwy na hyfforddi eich tîm cenedlaethol ac ni allaf aros am yr her y bydd y pedair blynedd nesaf yn ei dod, gan ddechrau gyda’n Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.” meddai ar y pryd. “Mae hwn yn amser cyffrous ar gyfer pêl-droed Cymru ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud y wlad yn falch ym mis Tachwedd ac yna parhau ein llwyddiant drwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau rhyngwladol yn y dyfodol.”