Ymgyrch Chwarae Teg CBDC 2024

Mae ymgyrch flynyddol ‘Chwarae Teg CBDC’ yn cymryd lle o ddydd Gwener 27 Medi hyd at ddydd Sul 6 Hydref ar gyfer pob clwb y Gynghreiriau Genedlaethol.

Mae’r ymgyrch ‘Chwarae Teg CBDC’ yn hyrwyddo’r neges bwysig o ‘Chwarae Teg’ ledled pêl-droed Cymru. Nod y fenter hon yw ysbrydoli Chwaraewyr, Clybiau, Swyddogion Gemau a Chefnogwyr i gynnal disgyblaeth dda ar y cae trwy gadw at Ddeddfau’r Gêm, yn ogystal â pharchu holl aelodau Teulu Pêl-droed Cymru.

Bydd clybiau ar draws Cymru yn cefnogi’r fenter trwy arddangos baneri ‘Chwarae Teg CBDC’ yn eu gemau ac ar eu sianeli cymdeithasol dros hyd yr ymgyrch.

Mae CBDC yn cymell ac yn gwobrwyo Clybiau sy’n chwarae rhan weithgar wrth leihau camymddwyn ar y cae, gyda Chlybiau sy’n arwain eu Tabl Chwarae Teg priodol ar ddiwedd y tymor yn derbyn Gwobr Chwarae Teg ac yn ennill gwobr o £1200, sydd ar gael i’w ddefnyddio i wella eu Clwb.

Dywedodd Rheolwr Disgyblu ac Uniondeb CBDC, Margaret Barnett: “Mae’r ymgyrch ‘Chwarae Teg CBDC’ yn gobeithio meithrin diwylliant cadarnhaol ar draws pêl-droed Cymru. Trwy annog ymddygiad parchus a disgybledig, rydym yn gobeithio adeiladu amgylchedd cryfach, mwy cynhwysol i chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr. Mae’n ymdrech ar y cyd, ac mae CBDC yn falch o gydnabod a gwobrwyo’r clybiau hynny sy’n hyrwyddo’r gwerthoedd hyn.”

Mae’r fenter ‘Chwarae Teg CBDC’ yn rhan o ymgyrch ehangach ‘PAWB Values’ CBDC, sy’n tynnu sylw at werthoedd craidd CBDC sef “Parch, Rhagoriaeth a Theulu”, lle mae CBDC yn ymrwymo i sicrhau bod pêl-droed ar gael i bawb, a bod pawb yn gallu teimlo parch a chymorth ar draws y gêm yng Nghymru.

Dysgwch fwy am enillwyr Gwobr ‘Chwarae Teg CBDC’ ar gyfer tymor 2023/24 a sut mae Clybiau wedi defnyddio eu gwobr i gefnogi eu clwb.  

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.