
I ddathlu bod Cymru wedi cyrraedd gemau ail gyfle EWRO Menywod UEFA am y tro cyntaf, mae Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru yn galw ar blant Cymru i ysgrifennu cerddi byrion i gefnogi’r tîm cyn eu gêm ail gyfle gyntaf erioed ar ddydd Gwener 25 Hydref yn erbyn Slofacia.
Rydym ni eisiau i’r cerddi ysbrydoli’r chwaraewyr, a dangos iddyn nhw pa mor ysbrydoledig ydyn nhw i blant Cymru! Rydym hefyd am i’r cerddi ddathlu grym merched a menywod i bêl-droed Cymru. Dangoswn i dîm Cymru ein bod ni’n eu cefnogi!
Y thema yw ‘Amdani Hi’, a dylai dy gerdd fod yn 12 llinell neu lai. Galli ei sgwennu yn Gymraeg neu’n Saesneg, neu mewn unrhyw iaith galli di ei siarad!
Dysgu mwy: Llenyddiaeth Cymru
Anfona dy gerdd at pel-droed@llenyddiaethcymru.org
Erbyn dydd Iau 17 Hydref, gyda dy enw cyntaf, oedran ac unai enw’r pentref/tref/dinas lle rwyt ti’n byw neu enw’r ysgol rwyt ti’n mynd iddi.
Bydd cefnogwyr Cymru a’r Wal Goch yn chwarae rhan bwysig yng ngemau Cymru, a gobeithiwn y bydd cefnogwyr yn heidio i’r stadiwm ar gyfer rownd gynderfynol y gemau ail gyfle!
Mae ysgolion, clybiau ac unrhyw grwpiau o 10+ o bobl yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y cynllun archebu grŵp. Pris tocynnau archebu grŵp yw £8 i oedolion a £3 i bobl iau.
Bydd angen cyflwyno’r ffurflenni archebu grŵp drwy’r post neu drwy e-bost at tickets@faw.cymru erbyn 12pm ddydd Gwener 18 Hydref.
Ffurflenni archebu grŵp: PDF | DOC
Cymru v Slofacia
Dydd Mawrth 29 Hydref, Stadiwm Dinas Caerdydd