
Bydd Yr Ofal, cartref CPD Tref Caernarfon yn y Novira Cymru Premier, yn cynnal gêm olaf Cymru yn ymgyrch ragbrofol UEFA EURO D21 yn erbyn Awstria ar ddydd Mawrth 6 Hydref (KO TBC).
Y gêm bydd y tro cyntaf i dîm Cymru D21 chwarae yng Nghaernarfon, a chyfle i ddangos trawsnewidiad Yr Ofal yn dilyn buddsoddiad o fwy na £1 miliwn fel rhan o bencampwriaeth UEFA EURO D19 dros yr haf yng ngogledd Cymru.
Roedd y gwaith ailddatblygu yn cynnwys cae chwarae newydd, ynghyd ag adnewyddu’r cyfleusterau ystafelloedd newid. Fe wnaeth y stadiwm cynnal tair gêm yn ystod y pencampwriaeth, gan croesawi Croatia, Serbia a’r Eidal i Gaernarfon.
Daw’r gwelliannau yng nghanol gyfnod cyffrous i Gaernarfon, ar ôl iddyn nhw enill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb y tymor diwethaf.
Wrth siarad ar ôl cwblhau’r gwaith ailddatblygu, dywedodd cadeirydd CPD Tref Caernarfon, Paul Evans, wrth FAW.Cymru yn ddiweddar: “Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud yn yr Ofal wedi trawsnewid y stadiwm. Bydd y stadiwm ymhlith y gorau yng Nghymru, gyda chyfleusterau modern gwych a chae o’r safon uchaf.”
“Rydym yn gobeithio y bydd yr hyn sydd yn digwydd nawr yn gwneud y clwb yn gynnig hyd yn oed yn fwy deniadol i gefnogwyr a busnesau. Mae’r prosiect wedi rhoi hwb enfawr i’r clwb, ac rwy’n credu y bydd yn cael yr un effaith i dref Caernarfon.”
Bydd gêm tîm Matty Jones yn erbyn Awstria yn nodi diwedd eu hymgyrch ragbrofol, wedi iddynt deithio i Wlad Belg yn gynharach yn y ffenestr ryngwladol.
Bydd tocynnau yn mynd ar werth ar ddydd Llun 14 o Fedi. Bydd yr amser cic gyntaf a gwybodaeth tocynnau i’w gadarnhau maes o law.

