
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o gyhoeddi dathliad cenedlaethol o ddiwylliant, pêl-droed a Chymreictod fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2026.
Gyda chyllid o gronfa gymorth Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn partneru â chwe chlwb pêl-droed a lleoliadau celfyddydol ledled Cymru i sicrhau rhaglen gyffrous o gigs, sgyrsiau a digwyddiadau cymunedol sy’n dathlu talentau Cymru.
Yn dilyn llwyddiant gweithgareddau Gŵyl Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn edrych ymlaen at ddatblygu ar hynny, gan ymestyn yr ŵyl i wythnos o hyd rhwng Chwefror 26ain – Mawrth 3ydd 2026.
Wedi gêm dyngedfennol rhwng CPD Penrhyncoch a Llandudno yng nghynghrair Cymru North ddydd Sadwrn 28ain Chwefror, bydd noson o gerddoriaeth a chawl yn Nhafarn y Roosters. Yn chwarae ar y noson bydd Aeron Pughe a’i fand, gan gyfuno arddull unigryw o ganu gwlad o’r gorllewin gwyllt!
Bydd y band poblogaidd Ciwb, sy’n rhoi sbin newydd ar hen drysorau, yn ymuno â’r artist addawol Magi yn Neuadd y Dref, Rhuthun nos Sadwrn 28ain Chwefror, gyda mwy o gyhoeddiadau i ddilyn.
Ym Mhontypridd, bydd yr anfarwol Clwb y Bont yn croesawu un o arwyr pêl-droed Cymru, Neville Southall, wrth iddo gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb am ei yrfa liwgar a thrafod ei obeithion am ddyfodol y bêl gron yng Nghymru. Gyda’r nos, bydd rhai o artistiaid fwyaf blaenllaw y byd gwerin yn perfformio gan gynnwys Gwilym Bowen Rhys a’r ddeuawd ddisglair o Bowys, Elin a Carys. Bydd yr amryddawn, Huw Williams, hefyd yn perfformio yno’r noson ganlynol felly mae rhywbeth at ddant pawb.
Bydd Theatr Soar, Merthyr Tudful yn cynnal paneli pêl-droed i ddysgwyr Cymraeg tra hefyd yn estyn croeso i’w cyngerdd arbennig fydd yn cynnwys perfformiadau gan y grŵp, AVANC a Tamil Sangam Cymru.
Mae cartref celfyddydol diweddaraf Caerdydd, Canopi, hefyd yn rhan o’r dathliadau wrth iddynt gynnal gweithdai uwch-gylchu fydd yn rhoi bywyd newydd i hen grysau pêl-droed. Daw’r penwythnos i ben gyda pharti gwylio Cylchgrawn Alt Wales, lle bydd tîm merched Cymru yn herio’r Weriniaeth Tsiec yng ngêm ragbrofol cyntaf eu hymgyrch Cwpan y Byd. Yn ymuno â nhw yno bydd seren y socials, Jess Davies.
Dywed Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn credu’n gryf mewn dathlu a hyrwyddo’r hyn sy’n gwneud ein cymunedau mor unigryw, a bydd pêl-droed a diwylliant bob amser wrth wraidd hynny. Ar sail hynny felly, rydym yn ymrwymo i gefnogi Gŵyl Ddewi mewn modd sy’n amlygu talent, balchder ac amrywiaeth ein cenedl – Cymru sydd wirioneddol i bawb.
“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid Llywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi ein gweithgareddau Gŵyl Ddewi drwy’r gronfa Gŵyl Dewi gyntaf erioed ac rydym yn teimlo’n falch o fod yn rhan allweddol o’r dathliadau eleni.”