

Bydd capten Cymru Angharad James a’r cyn-chwaraewr Joe Allen yn cael ei anrhydeddu gan yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ym mis Awst.
Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw cael cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod yn Llantwd, Sir Benfro, fore Llun 3 Awst a bore Gwener 7 Awst.
Fe wnaeth Angharad James arwain Cymru fel capten ym Mhencampwriaeth UEFA EWRO 2025 yr haf diwethaf, ymddangosiad gyntaf Cymru mewn pencampwriaeth menywod. Yn 2022, Angharad James oedd y chwaraewr ifancach ar draws y timau dynion a menywod i gyrraedd 100 cap dros Gymru.
Fe wnaeth Joe Allen cynrychioli Cymru dros yrfa 16 mlynedd, cyfnod a wnaeth ei weld yn cynrychioli ei wlad mewn tair pencampwriaeth ryngwladol; dau rownd derfynol UEFA EWRO (2016 a 2020) a Chwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar. Chwaraeodd Allen rhan hanfodol yn UEFA EWRO 2016 pan wnaeth Cymru cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Ffrainc, a chafodd ei wobrwyo gan le yn Nhîm y Bencampwriaeth UEFA.
Yn ogystal â’u llwyddiannau ar y cae, mae’r ddau unigolyn wedi bod yn gefnogwyr cadarnhaol i’r Gymraeg, gan gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau cyfryngol yn y Gymraeg.
Wrth siarad am yr anrhydedd, dywedodd Angharad James “Mae cael i gydnabod gan yr Orsedd yn un o’r anrhydeddau a’r breintiau mwyaf y gall Cymro eu cael, ac mae’n golygu’r byd i mi a’r teulu. Rwy’n falch bob tro rwy’n cynrychioli fy ngwlad, ond rwyf yr un mor falch o sut y gallaf ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y byd, ar y cae ac mewn cyfweliadau.”
“Daw fy nghariad at Gymru a’r iaith o’m magwraeth yn Sir Benfro a fy amser yn Ysgol y Preseli. Mae cael fy anrhydeddu gan yr Orsedd yn fy sir enedigol yn ei gwneud yn arbennig iawn. Rwy’n gobeithio y gallaf ysbrydoli plant a phobl ifanc yn yr ardal ac ar draws y wlad i ddefnyddio a dathlu’r iaith yn yr un ffordd.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las o 1-8 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.


