
Mae cyn-chwaraewyr Tîm Cenedlaethol Cymru yn cael eu gwahodd i fynychu dau ddigwyddiad yn dathlu penblwydd 150 Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda dathliad o flaen y Wal Goch.
Mae cyn-chwaraewyr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru yn cael eu gwahodd i fynychu’r gêm yn erbyn Ghana ar nos Fawrth 2 Mehefin (KO 7:45pm), tra bod cyn-chwaraewyr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru yn cael eu gwahodd i fynychu’r gêm yn erbyn Tsecia ar nos Fawrth 9 Mehefin (KO 6:00pm). Bydd y ddwy gêm yn cymryd lle yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fel un o’r Gymdeithasau Bêl-Droed hynaf yn y byd, sefydlwyd CBDC i roi presenoldeb ffurfiol i Gymru yn y byd pêl-droed rhyngwladol, ac ers hynny mae wedi treulio canrif a hanner yn siapio, llywodraethu a datblygu’r gêm ledled y wlad, o’r gemau rhyngwladol cynharaf hyd at y llwyfan byd-eang modern, yn ymestyn o’r gêm lawr gwlad i’r timau cenedlaethol.
Fel rhan o ddathliadau’r 150, bydd pob cyn-chwaraewr timau Dynion a Menywod Cymru sy’n bresennol yn y gemau yn cael eu gwahodd i ochr y cae yn ystod hanner amser am gyfle i gael eu dathlu o flaen y Wal Goch.
Mae’r dathliad yn rhan o lansiad cymdeithas cyn-chwaraewyr, sy’n cael ei threfnu gan Bennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Diwylliant CBDC, Ian Gwyn Hughes.
Mae gan CBDC gofnod o 751 o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli tîm Dynion Cymru, a 285 o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli tîm Menywod Cymru — 97 cyn cysylltiad â’r CBDC a 188 ar ôl cysylltiad â CBDC (1993 ymlaen).
Anogir unrhyw gyn-chwaraewyr sy’n dymuno mynychu’r gemau i lenwi’r ffurflenni cais isod. Gellir anfon ymholiadau ynghylch y fenter at press@faw.cymru.
Cymru v Ghana
Cyn-chwaraewyr Tîm Dynion Cymru
Dydd Mawrth 2 Mehefin (KO 7:45pm)
Cymru v Tsecia
Cyn-chwaraewyr Tîm Menywod Cymru
Dydd Mawrth 9 Mehefin (KO 6:00pm)


