
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch iawn o gadarnhau bod Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru, Rhian Wilkinson, wedi arwyddo cytundeb newydd o ddwy flynedd.
Bydd yr estyniad yn golygu bydd Wilkinson yn arwain y tîm drwy ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd Menywod UEFA 2027 ac ymgyrch UEFA EWRO Menywod 2029.
O dan arweiniad Wilkinson, a benodwyd yn rheolwr ym mis Chwefror 2024, cyraeddodd Cymru ei pencampwriaeth rhyngwladol menywod cyntaf erioed pan wnaethon nhw gyrraedd pencampwriaeth UEFA EWRO Menywod 2025 yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel Prif Hyfforddwr y tîm.
Ar ôl dod i frig eu grŵp rhagbrofol, fe wnaeth Cymru creu hanes yn ystod noson arbennig yn Nulyn, gan guro Gweriniaeth Iwerddon o flaen dorf o dros 25,000 yn y Stadiwm Aviva i gyrraedd y twrnamaint yn y Swistir lle wnaeth Cymru wynebu’r Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr.
Daw’r estyniad cytundeb yn dilyn dechreuad cryf i ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027. Bydd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn ail yng Ngrŵp B1, yn wynebu Montenegro ym Mhodgorica (dydd Gwener 5 Mehefin) a Czechia yn Stadiwm Dinas Caerdydd (dydd Mawrth 9 Mehefin) ar gyfer gemau olaf y grŵp.
Wrth siarad am y cytundeb newydd, dywedodd Wilkinson: “Rwy’n hynod falch i gael y fraint o rheoli Cymru am ddwy flynedd arall, ac rwy’n gyffrous iawn i fynd â’r tîm yn bellach ar ei daith. Mae gennym grŵp arbennig o chwaraewyr sy’n haeddu bod mewn pencampwriaethau rhyngwladol, yn ogystal â sêr am y dyfodol a fydd mewn cyfnod allweddol o’u datblygiad dros y blynyddoedd nesaf.
“Rwy’n edrych ymlaen i’r Wal Goch weld y tîm yn datblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, a hoffwn ddiolch i GBDC am roi’r cyfle imi barhau gyda fy ngwaith.”
Dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr. David Adams: “Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion bod cytundeb Rhian wedi’i ymestyn.
“Mae gwaith Rhian wedi sicrhau llwyddiant i’n Tîm Cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd ei swydd, ynghyd â chyfirfoldebau’r Prif Hyfforddwyr eraill ar draws ein timau dan oedran, yn helpu i sicrhau llwybr llwyddiannus ar gyfer chwaraewyr ifanc i’r Tîm Cenedlaethol Menywod dros y 2-4 blwyddyn nesaf.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney, ei lawenydd am y newyddion hefyd. “Rwy’n falch iawn bod Rhian wedi cytuno i ymestyn ei chyfnod gyda CBDC fel Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru.
“Ar ôl y llwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym yn edrych ymlaen i weld sut mae Rhian a’r tîm yn datblygu ymhellach wrth inni geisio cyrraedd mwy o bencampwriaethau rhyngwladol a thyfu’r gêm merched a menywod ledled Cymru.”
Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar gyfer gêm gartref Cymru yn erbyn Czechia ar wefan docynnau CBDC, gyda phrisiau’n £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.


