
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi lawnsio ei 105fed Neges Heddwch ac Ewyllys Da, gan ddatgan bod “heddwch yn siarad pob iaith”.
Bob blwyddyn ers 1922, mae pobl ifanc Cymru yn anfon neges heddwch sy’n trafod materion byd-eang hanfodol.
Gydag arbenigwyr yn rhybuddio y gallai hanner y 7,000 o ieithoedd yn y byd ddiflannu erbyn diwedd y ganrif oherwydd globaleiddio, mudo, a newid hinsawdd, mae neges 2026 yn alwad ingol i weithredu. Mae’n atgoffa arweinwyr byd a dinasyddion fel ei gilydd bod diogelu amrywiaeth ieithyddol yn ddull hanfodol o feithrin heddwch.
Mae chwaraewyr Cymru Ffion Morgan, Dylan Lawlor, Carrie Jones, Rubin Colwill a chapten Cymru Angharad James wedi darllen y neges eleni fel rhan o fideo ymgyrch swyddogol 2026, y mae’r Urdd yn annog pobl ledled y byd i’w rannu. Mae eu cyfranogiad yn adlewyrchu cefnogaeth gref Cymdeithas Bêl-droed Cymru i’r ymgyrch a’i neges.
Mae neges 2026 wedi’i chyfieithu i 75 o ieithoedd, gan gynnwys mwy o ieithoedd lleiafrifol nag erioed o’r blaen. Wedi’i gyrru gan leisiau pobl ifanc Cymru a’i hyrwyddo gan chwaraewyr rhyngwladol Cymru, mae’r ymgyrch yn gobeithio cyrraedd dros 40 miliwn o bobl yn fyd-eang.
Cafodd y neges eleni, sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cadw ieithoedd lleiafrifol, rhanbarthol a brodorol, ei lansio yn Camp Nou Spotify ym Marselona, sef stadiwm pêl-droed mwyaf Ewrop sy’n symbol hanesyddol o hunaniaeth Gatalanaidd.
Roedd Ffion Morgan ym Marselona yn cynrychioli CBDC a’r Urdd fel Llysgennad yr Ymgyrch. Yn siarad yn Camp Nou Spotify dywedodd hi: “Fel siaradwr Cymraeg ac phêl-droediwr, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi i fod yn falch o’ch gwreiddiau wrth gysylltu gyda’r byd ehangach. Mae rhannu’r neges yma o leoliad byd-eang eiconig fel Camp Nou Spotify yn dangos bod pobl ifanc yn barod i arwain y sgwrs. Mae heddwch yn siarad pob iaith, ac mae pobl ifanc Cymru yn gofyn i’r byd wrando.”
Meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae timau rhyngwladol Cymru yn ymfalchïo’n aruthrol mewn cynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang, gan arddangos ein hunaniaeth, ein hiaith, a’n gwerthoedd craidd fel cenedl i’r byd. Mae’r Urdd yn gwneud yr union yr un fath drwy ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da hanesyddol. Mae ein partneriaeth barhaus yn profi bod Cymru, ar y cae ac oddi arno, yn parhau i anelu’n uchel i hyrwyddo parch, amrywiaeth a heddwch yn fyd-eang.”
Mewn cyfnod o raniadau dwfn a dadleoli eang, mae neges yr Urdd yn ein hatgoffa bod heddwch yn cael ei adeiladu ar empathi, ar barch, ac ar ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol. Mae pobl ifanc Cymru yn defnyddio eu platfform i fynnu dyfodol lle mae pob llais ym mhob iaith yn cael ei glywed.


