
Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan wrth i Gymru geisio gorffen eu grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 ar nodyn uchel yn erbyn Montenegro a Czechia.
Mae Laura Hughes yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn anaf yn ogystal ag Olivia Clark, Ceri Holland a Lois Joel. Mae Scarlett Hill ac Elena Cole wedi cael eu galw i fyny ar ôl perfformiadau cadarnhaol yn ystod gemau rhagbrofol EURO WU19 UEFA ym mis Ebrill. Mae Hayley Ladd yn colli allan oherwydd anaf.
Mae Cymru yn ail yng Ngrŵp B1 ar hyn o bryd ar ôl curo Albania ddwywaith yn ystod y cyfnod rhyngwladol diwethaf. Bydd Wilkinson yn gobeithio y gall ei thîm adeiladu ar y momentwm hwn pan fyddant yn wynebu Montenegro ym Mhodgorica ar ddydd Gwener 5 Mehefin (KO 6:00pm CEST) a Czechia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 9 Mehefin (KO 6:00pm) ar gyfer gemau olaf yn y grŵp.
Mae Cymru wedi sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle, ond bydd y safleoedd hadu yn dibynnu ar eu safle terfynol yn y grŵp wrth iddynt frwydro am y safle uchaf gyda Czechia. Bydd y proses tynnu enwau allan o’r het ar gyfer rownd un a dau o’r gemau ail-gyfle yn cael ei gynnal ar 18 Mehefin.
Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, gyda phrisiau’n £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.
Cymru: Olivia Clark (Leicester City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Poppy SOPER (Rugby Borough), Hannah CAIN (Leicester City), Elena COLE (AFC Bournemouth), Mayzee DAVIES (Manchester City), Charlie ESTCOURT (Portsmouth), Gemma EVANS (Unattached), Mared GRIFFITHS (Manchester United), Scarlett HILL (Manchester United), Ceri HOLLAND (Liverpool), Elise HUGHES (Crystal PALACE), Laura HUGHES (Melbourne City), Sophie INGLE (Bristol City), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Esther MORGAN (Bristol City), Ffion MORGAN (West Ham United), Phoebie POOLE (Plymouth Argyle), Ella POWELL (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Sunderland), Mia ROSS (Charlton Athletic), Rachel ROWE (Nottingham Forest), Tianna TEISAR (Unattached), Lily WOODHAM (Liverpool).


