Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi ar gyfer gemau ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Albania

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan wrth i Gymru anelu i gyrraedd Cwpan y Byd Menywod FIFA am y tro cyntaf.

Gall Cymru fod bedair gêm i ffwrdd o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 ym Mrasil yr haf nesaf, gan ddechrau gyda gemau ail-gyfle rownd un yn erbyn Albania yn Shkodër (Dydd Gwener 9 Hydref) a Pharc y Scarlets, Llanelli (Dydd Mawrth 13 Hydref).

Mae chwe chwaraewr ddi-gap yn rhan o’r garfan, gan gynnwys galwadau cyntaf i Casi Gregson a Heidi Hills. Ni fydd Mia Ross, Hayley Ladd, Laura Hughes, Olivia Clark, Ceri Holland, Ffion Morgan ac Ella Powell ar gael oherwydd anafiadau.

Mae Cymru yn mynd i mewn i’r gemau ail-gyfle heb golli gêm yn 2026. Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn, mae tîm Wilkinson wedi ennill pedair gêm a chael ddwy gêm gyfartal, gan sgorio dau ar bymtheg gôl yn y broses.

Os bydd Cymru yn symud ymlaen i rownd derfynol, byddant yn chwarae dwy gêm yn erbyn naill ai Romania neu Norwy ar Ddydd Mawrth 1 Rhagfyr a Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr i benderfynu pwy fydd yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm ail-gyfle yn erbyn Albania ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Mawrth 13 Hydref (KO 7:15pm) ar gael i’w brynu ar wefan docynnau CBDC, yn costio £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Cymru: Soffia KELLY (Aston Villa), Safia MIDDLETON-PATEL (Watford – on loan from Manchester United), Poppy SOPER (Sheffield United), Hannah CAIN (Everton), Mayzee DAVIES (Manchester City), Charlie ESTCOURT (Fulham), Gemma EVANS (Newcastle United), Olivia FRANCIS (Wolverhampton Wanderers), Casi GREGSON (Newcastle United), Mared Griffiths (Manchester United), Scarlett HILL (Manchester United), Elise HUGHES (Sunderland), Sophie INGLE (Bristol City), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Esther MORGAN (Bristol City), Mary MCATEER (Ipswich Town – on loan from Charlton Athletic), Phoebie POOLE (Watford), Tianna TEISAR (Watford), Rhiannon ROBERTS (Sunderland), Rachel ROWE (Nottingham Forest), Lily WOODHAM (Liverpool), Heidi HILLS (Tottenham Hotspur), Cadi RODGERS (Plymouth Argyle).