
Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewyr wrth i Gymru baratoi i wynebu Norwy a Phortiwgal yn gemau olaf ei grŵp Cynghrair y Cenhedloedd UEFA eleni.
Mae sawl chwaraewr nad oedd ar gael ar gyfer y pedwar gêm ar draws Medi a Hydref yn dychwelyd i’r garfan, gan gynnwys Harry Wilson, Joe Rodon a Karl Darlow. Mae’r gôl-geidwad Joe Duncan wedi cael ei alwad gyntaf i’r garfan.
Bydd tîm Bellamy yn teithio i Oslo i wynebu Norwy yn Stadiwm Ullevaal ar nos Sadwrn 14 Tachwedd (KO 5pm GMT), cyn dychwelyd adref i wynebu Portiwgal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth 17 Tachwedd (KO 7.45pm).
Mae Cymru yn drydydd yn eu grŵp yng Nghynghrair A ar hyn o bryd, gyda dwy gêm yn weddill. Fe wnaeth goliau gan Dan James a Neco Williams sicrhau tri phwynt mewn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd y mis diwethaf, buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru yng Nghynrair A. Roedd y gêm yn Lisbon yn erbyn Portiwgal, sydd wedi ennill Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ddwywaith o blaen, yn golled gul o 1-0 yng ngêm agoriadol yr ymgyrch.
Mae tîm Bellamy yn dal i frwydro gyda’r posibilrwydd o orffen yn yr ail, y trydydd neu’r pedwerydd safle, a gallai pob un o’r canlyniadau hyn effeithio ar yr hyn fydd yn digwydd nesaf i Gymru.
Fel tîm yng Nghynghrair A, byddai gorffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp yn sicrhau lle i Gymru yn rownd yr wyth olaf, a fydd yn cael ei chynnal ym mis Mawrth 2027. Bydd pedwar enillydd y rownd honno wedyn yn symud ymlaen i rowndiau terfynol Cynghrair y Cenhedloedd, a fydd yn cael eu cynnal ym mis Mehefin 2027 gan un o’r cenhedloedd fydd yn cystadlu.
Byddai gorffen yn drydydd yn golygu chwarae gemau ail gyfle i osgoi disgyn i Gynghrair B yn erbyn tîm o’r gynghrair honno, hefyd ym mis Mawrth. Pe bai Cymru yn gorffen ar waelod y grŵp, byddai hynny’n arwain at naill ai gemau ail gyfle i osgoi disgyn neu ddisgyn yn syth i Gynghrair B. Bydd hyn yn dibynnu ar eu safle o gymharu â’r grwpiau eraill yng Nghynghrair A.
Cymru: Karl DARLOW (Manchester United), Danny WARD (Wrexham), Joe DUNCAN (Southend United, on loan from Bristol City), Jay DASILVA (Coventry City), Jayden LIENOU (Leeds United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Chris MEPHAM (West Bromwich Albion), Joe RODON (Leeds United), Ben CABANGO (Swansea City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Connor ROBERTS (Burnley), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Kai ANDREWS (Oxford United, on loan from Coventry City), Rubin COLWILL (Cardiff City), Joel COLWILL (Cardiff City), Harry WILSON (Leeds United), Liam CULLEN (Leicester City), Cian ASHFORD (Cardiff City), Brennan JOHNSON (Everton), Sorba THOMAS (Hull City), Lewis KOUMAS (Liverpool), Kieffer MOORE (Wrexham), Mark HARRIS (Oxford United), Dan JAMES (Leeds United), David BROOKS (Bournemouth).
Aelodaeth Y Wal Goch
2026-2028
Rhestr Capiau Dynion Cymru
Rhestr yn gywir ar 4 Tachwedd 2026