

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn falch o gyhoeddi cyflwyno rhifau etifeddiaeth a chapeau arbennig i Dimau Cenedlaethol Cymru, fel rhan o gydnabod a dathlu hanes pêl-droed Cymru ar ei phen-blwydd 150 oed.
Mae’r capiau etifeddiaeth yn dathlu gêm cyntaf unrhyw chwaraewr sydd yn cynrychioli Tîm Cenedlaethol Cymru, Dynion neu Menywod. Mae’r capiau etifeddiaeth mewn lliw gwyrdd dywyll, gyda thasel aur, sy’n cyfateb i liw un o’r capiau cynharaf ar record, a gyflwynwyd yn 1891.
Mae’r fenter wedi dechrau drwy ddathlu chwaraewyr a enillodd eu capiau cyntaf yn ystod tymor 2025/26, fel rhan o ddathliadau’r 150fed pen-blwydd.
Cyflwynwyd capiau etifeddiaeth i Kai Andrews a Joel Colwill ym mis Tachwedd gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Alan Curtis, tra derbyniodd Aaron Collins ei gap ar ôl y gêm yn erbyn Portiwgal. Mae Tianna Teisar, Mia Ross, Phoebie Poole, Olivia Francis a Casi Gregson hefyd wedi derbyn eu capiau etifeddiaeth, gyda’r cyflwyniadau’n cael eu cynnal drwy gydol 2026.
Bydd chwaraewyr eraill a wnaeth eu hymddangosiadau cyntaf yn ystod tymor 2025/26 hefyd yn derbyn eu capiau etifeddiaeth yn fuan, fel rhan o lansio’r fenter.
Tîm Cenedlaethol y Dynion
Cynhaliwyd gêm gyntaf Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru ar 25 Mawrth 1876, pan wnaeth un ar ddeg o chwaraewyr o dan arweiniad Llewelyn Kenrick wynebu’r Alban o flaen dorf o 17,000 yn Hamilton Crescent, Glasgow.
150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae dros 750 o chwaraewyr wedi cynrychioli Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyrhaeddodd Cymru rownd wyth olaf Cwpan y Byd FIFA 1958, rownd wyth olaf UEFA EURO 1976, rownd gyn-derfynol UEFA EURO 2016 a dau bencampwriaeth rhyngwladol yn ddiweddar, UEFA EURO 2020 a Chwpan y Byd FIFA 2022.
Mae Edwin Cross wedi cael rhif etifeddiaeth 1 fel y golwr yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1876. Ar 18 Tachwedd 2026, Aaron Collins yw’r chwaraewr diweddaraf i ennill cap dros Dîm Cenedlaethol Dynion Cymru, gyda rhif etifeddiaeth 753.
Mae rhestr lawn o rifau etifeddiaeth Tîm Cenedlaethol y Dynion ar gael yma.


Tîm Cenedlaethol y Menywod
Cynhaliwyd gêm ryngwladol gyntaf Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru dan reolaeth CBDC ym mis Medi 1993, pan enillodd Gwlad yr Iâ 1-0 yn Afan Lido. Daeth y tîm o dan adain CBDC yn 1993, diolch yn bennaf i benderfynolrwydd chwaraewyr Michele Adams, Karen Jones a Laura McAllister, a chefnogaeth Alun Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol CBDC ar y pryd.
Ers y gêm yn 1993, mae 190 o fenywod wedi cynrychioli Cymru mewn dros 250 o gemau, a’r uchafbwynt oedd cyrraedd UEFA Women’s EURO 2025 yr haf diwethaf, sef ymddangosiad cyntaf y tîm mewn pencampwriaeth rhyngwladol.
Su Young yw rhif etifeddiaeth 1 fel y golwr yn y gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ yn 1993. Ar 18 Tachwedd 2026, Casi Gregson yw’r chwaraewr diweddaraf i ennill cap dros Dîm Cenedlaethol Menywod Cymru, gyda rhif etifeddiaeth 190.
Cyn i’r tîm ddod o dan adain CBDC yn gynnar yn y 1990au, cynhaliwyd nifer o gemau Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru yn ystod y 1970au a’r 1980au. Mae gan CBDC gofnodion o 27 o gemau rhwng 1973 a 1993, gyda 97 o chwaraewyr yn cymryd rhan.
Lansiwyd apêl yn 2024 i ddod o hyd i’r chwaraewyr hyn er mwyn cyflwyno capiau etifeddiaeth iddynt, ac mae 79 o’r chwaraewyr hyn, neu eu teuluoedd, bellach wedi derbyn y capiau.
Oherwydd bod gwybodaeth newydd am gemau Tîm Cenedlaethol Menywod cyn iddynt ddod o dan adain CBDC yn parhau i ddod i’r amlwg, bydd capiau’r rhai a chwaraeodd cyn 1993 yn cael eu dyddio yn ôl blwyddyn yn hytrach na’u rhoi rhif etifeddol.
Mae rhestr lawn o rifau etifeddiaeth Tîm Cenedlaethol y Menywod ar gael yma.


Cyflwyno capiau
O hyn ymlaen, pan fydd chwaraewr yn cynrychioli Cymru am y tro gyntaf, bydd ei cap etifeddiaeth yn cael ei gyflwyno ar ôl y gêm. Bydd hyn yn galluogi dathliad am y garreg filltir mor agos â phosib at yr achlysur, gan nad oedd chwaraewyr arfer derbyn eu cap cyntaf tan y cyflwyniad capiau blynyddol.
Er mwyn dathlu cyn-chwaraewyr, bydd CBDC yn trefnu digwyddiadau fel rhan o’r gymdeithas cyn-chwaraewyr i ddechrau dosbarthu capiau etifeddiaeth. Bydd y digwyddiadau hyn hefyd yn gyfle i godi arian i helpu i gefnogi cyn-chwaraewyr. Bydd CBDC yn anelu at gyflwyno 40 o gapiau etifeddiaeth i gyn-chwaraewyr dynion a menywod bob blwyddyn.
Cywirdeb
Gyda gwybodaeth yn ymestyn yn ôl cyn belled â 1876, hoffai CBDC ddiolch i’r cyn-hanesydd CBDC, Ceri Stennett, am gasglu gwybodaeth am yr holl Dimau Cenedlaethol hyd at 2014, ac i John Carrier am gasglu gwybodaeth am hanes pêl-droed menywod yng Nghymru.
Mae CBDC mor hyderus ag y gall fod yng nghywirdeb y gwybodaeth, a bydd yn adolygu unrhyw wybodaeth newydd a allai olygu bod angen gwneud newidiadau.

